Y Bigwn

Weithiau mae’r fflam yn  llosgi’n isel.

Mawrth 13eg oedd y diwrnod olaf imi fynd yn agos i unrhyw gaffi, siop neu swyddfa.

Ers hynny rydwi wedi hunan-ynysu.

Fȕm i ddim yn agos at y car hyd yn ddiweddar iawn, a’r adeg honno wnes i ddim mynd ymhellach na lawr y lȏn i Lanrhaeadr.

Mis Chwefror oedd y tro diwethaf imi roi petrol yn y car, ac mae gen i hanner llond tanc ynddo o hyd.

Ambell daith gerdded hollol leol gan sicrhau nad  ydw ni’n mynd yn agos i unrhyw fan sydd yn llai na 2 fetr o led, a garddio cyn lleied ag y medrwn i fu fy mywyd.

Bu’n rhaid cadw draw oddi wrth deulu hyd nes y cafwyd caniatâd yn ddiweddar gan lywodraeth Cymru.

Gwylio Heno ar y teledu fu uchafbwynt fy niwrnod, ac y mae hynny yn d’eud llawer.

Do. Mae hi wedi bod yn anodd.

Yr unig gysur ydy mai fel yna bu hi i lawer iawn ohonoch chithau hefyd.

Does gen i ddim cof pryd wnes i ddefnyddio arian parod ddiwethaf  ac yn mae hynny yn beth dieithr yn fy hanes. Rydwi’n hoffi cael arian wrth law.

Fe gymerodd hi flynyddoedd imi fod yn hapus yn defnyddio cerdyn. Dydwi ddim yn defnyddio twll yn y wal nac yn bancio ar-lein.

Roedd hynny yn ormod o drafferth pan oedd cangen leol a staff croesawgar wrth law.

Er i hynny ddod i ben, anodd ydy tynnu cast o hen gi.

Yn ffodus, y fi ydy’r unig un y tŷ acw sydd yn byw yn y dyddiau a fu, ac wrth fynd ar-lein rydan ni wedi sicrhau bod yna fan archfarchnad yn dod â neges inni bob wythnos.

Dydwi ddim wedi gweld y meddyg, y meddyg cefn, y dyn trin traed na’r ferch torri gwallt ers cyn i’r clo ddod i rym, ac mi fȕm i angen gweld pob un ohonyn nhw.

Mae bywyd wedi bod yn anodd, a does yna ddim dwywaith amdani.

Na, dydwi ddim eisiau mynd yn agos i rêf na pharti na thorheulo a chael barbeciw ar y traeth, ond mi fyddwn i wedi hoffi cerdded ar hyd yr arfordir neu fynd draw tua’r Alwen.

 Ond rydwi wedi bod yn ufudd gan ddilyn y drefn a chadw at arweiniad llywodraeth Cymru.

Ar adegau rydwi’n flin am fy mod i’n teimlo bod Mark Drakeford mor bwyllog, ond fe wn i hefyd mai fo sydd yn iawn.

Dyma’r tro olaf imi baratoi’r golofn hon cyn toriad Y Bigwn dros yr haf.

Pan fyddaf yn paratoi ar gyfer rhifyn Hydref gobeithio bydd hi’n wahanol byd arnom a llawer o’r gwaharddiadau wedi’u codi.

A bydd yr aberth wedi bod yn werth y cyfan.

Ta waeth, gallwn freuddwydio am hynny.

 Stan Lyall