Wythnos 11 – nos Wener
Wythnos Dominic Cummings a fu hon o’i dechrau i’w diwedd. Go brin fod yna rywun nad oedd oedd o’n wleidydd wedi derbyn cymaint o sylw gwleidyddol ers Christine Keeler yn y chwedegau.
Trosedd Dom – os ca’ i alw’r gŵr bonheddig yn hynny – oedd gyrru i Durham gyda’i deulu yn ystod y cloi mawr pan oedd o’n dioddef o gofid -19. Roedd hynny yn gwbl groes i’r rheolau ar y pryd.
Ond doedd yr hen Dom ddim yn fodlon ar un drosedd. Tra roedd o’n Durham fe ymwelodd â Barnard Castle – taith o ryw hanner can milltir – er mwyn profi’i olwg.
Mae yna un peth yn gyffredin i Dom a mi – mae’r ddau ohonom wedi bod yn Durham a Barnard Castle. Y gwahaniaeth ydy’ bod yna ddeuddeg mlynedd er pan fȕm i yno, a doedd yna ddim gwaharddiadau yr adeg honno.
Wel, fe gafodd Dom gyfle i roi’i eglurhad am ei drosedd i gyfryngau’r byd o ardd gefn 10 Downing Street. Fe gadwodd pawb yn aros am ugain munud go dda, hen dric digon budr a dweud y gwir.
Y dom maen nhw’n galw tail mewn rhannau o’r de, a dyna a gawsom ni ganddo. Dim ymddiheuriad o gwbl, dim ond paldaruo am funudau lawer gan fwynhau’r sylw roedd o’n ei gael.
Cafodd ei amddiffyn gan Boris Johnson a Michael Gove. Chwarae teg iddo - lles ei deulu oedd flaenllaw yn ei feddwl. Roedd Dom am i’w blentyn gael gofal teuluol pe bai cyflwr ei wraig ac yntau yn dirywio.
Ond beth am yr holl bobl eraill hynny sydd wedi gorfod dygymod â sefyllfa o’r fath ar eu pennau eu hunain heb gymorth gan berthnasau - y mamau neu’r tadau sengl, er enghraifft?
A gaiff Dom ei gofio fel yr un a wnaeth hi’n amhosib’ i Boris a’i griw fedru cadw trefn ar drigolion Lloegr wrth godi mymryn ar y gwaharddiadau? Ai fo achosodd i bobl glecio bys ar gadw at y rheolau gan heidio yn eu miloedd i draethau a pharciau gwledig?
Diolch i’r drefn, yma yng Nghymru y mae’r hen Mark yn llwyddo i’n cadw ni dan ei fawd, ac rydym yn ddiolchgar iddo am ganiatâd i weld anwyliaid o un cartref arall.
Dyna roeddem ni oll eisiau, nid gorwedd ar y traeth a neidio o ben clogwyni i’r mȏr.
Mae ein Prif Weinidog ni yn f’atgoffa o Terry Griffiths, y chwarae snwcer. Fe fyddai Terry hefyd yn bwyllog, yn edrych ar y sefyllfa o bob ongl cyn mentro ar yr hyn oedd yn ddiogel i’w wneud.
Wythnos 12 -nos Wener
Fedr rhywun wneud dim ond teimlo’n ddigalon heno gyda’r newydd fod yna ddeugain mil a throsodd wedi marw ym Mhrydain o’r feirws erchyll hwn.
Deugain mil mewn llai na phedwar mis, a sȏn am ail don wedi dechrau yn barod dros y ffin yn Lloegr - llai nag awr oddi wrthym ni.
Byddai rhywun fel arfer yn cytuno â nhw wrth weld ein pobl ifainc yn codi’u lleisiau mewn protest yn dilyn llofruddio George Floyd gan heddwas yn yr Unol Daleithiau.
Yn falch o’u gweld yn gorymdeithio yn eu miloedd ar hyd strydoedd ein trefi a’n dinasoedd.
Ond y tro hwn mae yna ofn yn codi wrth iddyn nhw ymgasglu, ofn i’w gweithred egwyddorol nhw achosi i’r ail don godi hyd yn oed yma yng Nghymru.
Faint ohonyn nhw fydd ar ein strydoedd yfory? A allen nhw ddangos eu teimladau mewn unrhyw ddull arall? Ai bod yn hunanol ydw i neu fy mod yn brin o egwyddorion Cristnogol?
Ai camgymeriad oedd dweud yn y lle cyntaf mai go brin y byddai pobl ifainc yn dioddef o’r haint?
Llygedyn o oleuni? Yn ffodus, mae’r marwolaethau yng Nghymru yn gostwng. Dim ond pedair oedd yna heddiw. Efallai y bydd yn uwch yfory, ond rhydd hyn obaith inni.
Gweld y nifer o achosion newydd yn lleihau fyddai’n codi calon rhywun. Efallai y digwydd hynny hefyd yfory.
Syfrdanol oedd y datganiad gan Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg, y caiff ein hysgolion eu hagor i bob disgybl ar Fehefin 29ain, ond bod hynny fesul traean ohonyn nhw - hynny ydy, un rhan o dair o’r disgyblion ar y tro.
Doeddwn i ddim, mwy na’r rhelyw o bobl, yn disgwyl hyn. Na, yr wythnos gyntaf ym Medi oedd yn fwyaf tebygol gredwn i.
Bydd dyfeisio a gweithredu’r cynllun - gan gadw at y gwaharddiadau cymdeithasol – yn gur pen i bob un sydd â chysylltiad ag adeilad addysgol.
Bydd yn boendod hefyd i unrhyw un sydd yn gorfod trefnu cludiant i’r disgyblion hyn.
A phwy sydd am warchod y plant hynny nad ydyn mhw yn y traean sydd yn mynychu’r ysgol ar ryw ddiwrnod arbennig?
Mae yna ambell undeb athrawon wedi codi bwganod am y perygl i blant ac oedolion.
Ond y mae athrawon a disgyblion – y rhai sydd yn blant i weithwyr allweddol neu mewn sefyllfa fregus – wedi bod yn mynychu ysgolion drwy gydol cyfnod y caethiwed, ac ni wnaeth unrhyw undeb wrthwynebu hynny.
Byddai pob un ohonom yn hoffi gweld rhyw waharddiad neu’i gilydd yn cael ei godi’n fuan – cyfyngiadau ar deithio, agor siopau trin gwallt, meddygfeydd deintyddion ac yn y blaen.
Efallai – oherwydd Pwyll Biau Hi Drakeford – y gwelwn hyn oll cyn diwedd Awst.
Wythnos 13 – nos Wener
Dyma’r wythnos pan gafodd y penawdau ar ei chychwyn eu cipio gan y gwrthdystio a’r protestiadau am y dull erchyll rydan ni wedi ac yn dal i drin pobl dduon ar hyd a lled y byd.
Ond yna cafodd y protestiadau hynny yn eu tro eu herwgipio gan y busnes cerfluniau ‘ma.
Roedd o’n addysg i rai ohonom ddeall fod rhai o arwyr y gorffennol gyda chysylltiadau â chaethwasiaeth – rhai yn berchnogion ar gaethweision ac eraill gyda chyfranddaliadau mewn cwmnîau a oedd ynghlwm â’r triongl masnach erchyll.
A dyna ni yn Ninbych reit yn ei chanol hi – yr hen H.M. Stanley yn dwyn sylw i’n tref ni.
O’r cychwyn cyntaf ddegawd yn ȏl bu yna wrthwynebu gosod cerfun o’r hen ddyn bach tu allan i’r llyfrgell.
Os am ei ddisodli, beth am drosglwyddo i’r fangre gofeb i Samuel Johnson, y geiriadurwr Saesneg a oedd â chysylltiadau amlwg â’r ardal. Mae hi’n drist ei gweld hi wedi dirywio ar lannau’r Ystrad.
