Y Bigwn

‘Stop the world, I want to get off!’

Faint o weithiau da chi wedi clywed rhywun yn dweud hynny neu wedi‘i ddweud o eich hun, falle? Dwi’n gwbod mod i wedi’i ddweud o unwaith neu ddwy...ond nes i erioed feddwl y basa’r byd yn ‘actiwali’ stopio.

Ond dyna a fu ganol fis Mawrth...gyda chyhoeddiad gan Boris y byddai’r Deyrnas Unedig ar ‘lockdown’. Dramatig iawn, a rhaid i mi gyfadde i mi golli deigryn. Roedd pethau wedi bod yn cronni ers rhai wythnosau gyda’r Coronafeirws yn dod yn fwyfwy amlwg a mwy difrifol yn nes at adre, roedd hi’n anochel bod cyhoeddiad o’r fath ar droed. Ond beth oedd o’n ei olygu? Cael ein cloi yn ein tai? Colli rhyddid i fynd a dod fel y mynnon ni?

Dwn i ddim amdanoch chi, ond roedd arna i fwy o awydd mynd allan nag erioed o’r blaen, fel pan welwch chi ‘sick bag’ ar awyren neu gwch, roeddech chi’n teimlo’n hollol iawn cyn gweld y bag papur diarth, ond y munud i chi weld o’n pipian arnoch chi, mae’n codi cyfog.

Ond rhaid oedd cadw wrth reolau Llywodraeth y DU.

Gan fod y gŵr yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd, dyma benderfynu yn ein tŷ ni mai fo fyddai’n mynd i siopa bwyd yn yr archfarchnad gan y byddai o’n mynd allan a dod i gysylltiad ȃ phobl beth bynnag, er mwyn lleihau faint o gysylltiad fydden ni’n ei gael gyda’r cyhoedd. (Roeddwn i’n rhoi rhestr siopa iddo peidiwch ȃ phoeni!)

Am rhyw reswm, penderfynais i brynu ‘FitBit’. Amser od i’w brynu, a ninnau yn gaeth i’n tai. Gan fod y tywydd yn weddol, dechreuais fynd am dro yn ddyddiol gydag Elen, dim ond y ddwy ohonom a’r pram yn ystod fy amser egwyl o’r gwaith. Roedd ein trefniant gyda’r warchodwraig wedi dod i ben am y tro felly rhaid oedd ceisio dal i weithio llawn amser o adref wrth ofalu am Elen a’i ddiddanu hefyd. Roeddwn i’n gwybod y byddai mynd ȃ hi am dro yn y pram yn siwr o’i chael i gysgu am awr neu ddwy, felly i ffwrdd ȃ ni i fyny’r ystȃd ddiwydiannol, heibio’r Clwb Rygbi, i lawr hebio Aldi ac adre nôl.

Daeth y cylch hwn yn dipyn o ‘routine’ i ni. Roedd yn rhoi cyfle iddi hi gysgu, ac i minnau glirio’r meddwl. Gan fod y ffyrdd mor ddistaw, roedd cyfle i gymryd mwy o sylw o beth oedd o’n cwmpas. Y peth cyntaf (a’r peth gorau!) oedd arogl bara yn dod o safle Becws Henllan hanner ffordd i fyny’r ystȃd ddiwydiannol. A minnau’n ceisio colli pwysau (wrth weithio adref gydol yr amser, mae’n rhy hawdd estyn i’r cwpwrdd bisgedi...yn y swyddfa, estyn am lasied o ddwr neu baned fyddwn i fel rheol ganol bore), roedd yn codi blys arnaf am ddarn o dost neu rholyn bacwn…

Dyma basio’r Clwb Rygbi, rydym mor gyfarwydd ȃ’r lle, ond eto roedd yn edrych yn dieithr gan ei fod yn cael ei ddefnyddio fel Canolfan Asesu ar gyfer pobl ȃ symptomau o’r feirws. Roedd y caeau newydd eu torri, a’r arogl glaswellt ffresh yn mynd ȃ fi yn ôl i gaeau ysgol Twm o’r Nant fel pe bai hi’n ddoe. Gorwedd ar gaeau gwyrdd yng nghanol y llygad y dydd a chreu cadwyni, yna dal blodyn menyn dan ên ffrindiau i weld ‘wyt ti’n hoffi menyn’? Roedd hi’n teimlo fel ddoe pan oedden ni’n rhedeg ar draws y caeau yn ein ffrogiau ‘gingham’ glas a gwyn a’r trowsus byr llwyd a’r crysau T glas.

Roedd clywed sŵn yr adar wrth gerdded yn brofiad anarferol, gan y byddai sŵn y traffig yn eu boddi fel arfer neu ninnau ddim yn eu clywed nhw oherwydd ein prysurdeb a’n ‘rheidrwydd’ i gyrraedd y lle nesaf cyn gynted ȃ phosibl. Mae natur bob amser wedi bod yno dim ond i ni aros a gwrando.

Dyma gael ‘newsflash’ ar fy ffôn. Tua 300 wedi marw o’r feirws heddiw. ‘O, dim ond 300’, meddyliwn, ond wedyn sylweddoli bod hynny’n ffigwr ofnadwy o uchel. Ond o gymharu ȃ’r ffigyrau blaenorol roedd hyn yn welliant. Roedd hyn yn sobri rhywun. Roedd 300 o deuluoedd wedi colli rhywun annwyl. 300 o fywydau...mewn diwrnod. Mae’n anodd amgyffred ffasiwn beth.

Dyma gyrraedd adref, a cheisio ffitio awr neu ddwy o waith i mewn cyn cinio. Rhagor o ymchwil i ganfod termau addas ar gyfer geiriau sy’n newydd i ni, lockdown, track and trace, social distancing… Sawl tro fydd rhaid cyfieithu’r gair ‘unprecedented’ heddiw, tybed?! Edrychais ar Instagram yn gyflym wrth ferwi’r tegell, rhag ofn bod rhywbeth hynod gyffrous wedi digwydd tra roeddwn i allan am dro. Dim byd mawr, dim ond mwy o luniau o blant bach yn cymryd rhan mewn gweithgareddau hynod gyffrous a strwythuredig, wedi’u cynllunio i’r manylyn lleiaf. Ac wrth gwrs, y plantos bach yn gwenu’n ddel er mwyn sicrhau bod modd i’r rhiant rannu llun ‘Instagrammable’ gyda’u dilynwyr.

Argol, ddylwn innau bobi cacen lemwn berffaith, neu sicrhau bod gen i weithgaredd addysgiadol briodol ar gyfer fy mhlentyn innau, a’i rannu er mwyn cael cymeradwyaeth fy nilynwyr? Does gen i ddim amser! Rhaid i mi wneud 8 awr o waith cyn 5pm, a pharatoi swper erbyn 6! Ydw i’n dibynnu ormod ar Peppa a Netflix a CBeebies? Sut mae’r rhieni ‘perffaith’ ar gyfryngau cymdeithasol yn llwyddo i ddiddanu eu plant mewn ffordd mor drawiadol a hefyd cadw trefn ar y tŷ a pharatoi pryd o fwyd blasus gyda’r nos (sydd hefyd, wrth gwrs, ar Instagram, ‘just whipped this up in 6 minutes’)... Be dwi’n neud o’i le? Fedra i ddim ffitio pobi cacen i mewn i’r penwythnos, heb sôn am bobi un cyn amser cinio ar ddydd Llun! Mae fy sgons i fel brics yn ôl Sam beth bynnag, ond stori arall di honno...

Mae’n rhaid dweud bod yr holl amser gyda’r teulu bach wedi bod yn hyfryd. Anaml rydyn ni’n cael gymaint ȃ hyn o amser gyda’n gilydd. Mae digwyddiadau neu gemau rygbi yn codi fel arfer. Rydyn ni’n gweld colli ffrindiau a theulu fel pawb arall, er bod Facetime a chwisys dros Zoom wedi bod yn hwyl, dydio ddim yr un fath nacdi? Hei lwc y daw pen draw’r cyfnod ma cyn hir a chawn ni weld ein hanwyliaid eto. Os oes rhywbeth i’w ddysgu o’r cyfnod clo, bod yn ddiolchgar am beth sydd gennym ni bob dydd faswn i’n ddweud yw hynny. Cadwch i gyd yn saff.

Nia Jones