Penderfynodd Cyngor Tref Dinbych, mewn cyfarfod ar Fehefin 24ain, y dylid gofyn ein barn ni, bobl y dref, am yr hyn ddylid ei wneud gyda’r cerflun o H M Stanley sy’n sefyll o flaen Llyfrgell y Dref. Yn dilyn yr ymgyrch Black Lives Matter, fe gyflwynwyd deisieb, gyda thros 7000 o enwau arno, i’r Cyngor yn gofyn am dynnu’r cerflun oddi yno. Cytunwyd o un bleidlais i adael y cerflun yn ei le am y tro hyd nes ceir barn y bobl.
Yn sgil Black Lives Matter hefyd teimlwyd mai amserol fyddai ail gyhoeddi
hanes Robert Everett, a ymddangosodd yn Y Bigwn yn 2008, yn y rhifyn hwn.
