Fel llawer cymdeithas arall chawsom ni ddim cyfarfod ers ein dathliad Gŵyl Ddewi ddechrau Mawrth ond roedd cadw mewn cysylltiad gyda’n haelodau yn bwysig ac felly fe anfonwyd cylchlythyr at bawb ar ddechrau bob mis. Dyma bytiau ohonynt.
Mis Ebrill
Felly sut ydach chi’n llenwi’ch amser? Dwi’n trio gwneud gwahanol bethau mewn diwrnod er mwyn teimlo mod i’n cyflawni lot! Mi orffenais ddarllen “Hanes Menywod Cymru 1920-60” ac yn hwnnw roedd llawer o’r gwragedd yn “uniaethu â phatrwm wythnos waith debyg i hwn; golchi ar y Llun, smwddio dydd Mawrth, glanhau’r llawr isaf dydd Mercher, siopa dydd Iau efallai a glanhau’r llofftydd dydd Gwener.” Dim diolch! Does dim sôn am ddarllen, gwneud croesair neu sudoku, cwiltio, mynd â’r ci am dro, garddio na chael boreau coffi rhithwir dros Facetime yn fan’na. Ia wir, boreau coffi, te pnawn neu awr goctel rhithwir a chyfle i sgwrsio efo ffrindiau wyneb yn wyneb fel petai.
Be’ wnaem ni heb dechnoleg ar adeg fel hyn? Mae’n cadw pawb mewn cysylltiad, yn enwedig neiniau a theidiau a’u hwyrion, ac mae’n gwneud pobl yn greadigol. Os ewch ar safle Merched y Wawr merchedywawr.cymru fe gewch lun ac erthygl y dydd yno o hen rifynnau o’r Wawr. Difyr iawn. Heddiw rysait Bara Brith Talmignedd o 1978 sydd yna a dwi am roi cynnig arni. Hefyd mae dolen i dudalen Facebook newydd gan Glybiau Gwawr, Curo’r Corona’n Coginio, sy’n dangos creadigaethau coginio pobl. Os mai canu sy’n mynd â’ch bryd mae Côr-ona ar Facebook yn werth ymweld ag o.
Cyn gorffen, rhaid cyfaddef, er fy mod yn gallu llenwi’r amser yn go dda does gen i ddim syniad pa ddiwrnod ydi hi! Efallai y dylwn i fabwysiadu wythnos waith fel fy nghyn-neiniau!
Mis Mai
Aeth mis arall heibio a ninnau ddim nes i’r lan! Gobeithio eich bod chi a’ch teuluoedd yn cadw’n ddiogel ac yn iach a gobeithio hefyd eich bod yn llwyddo i gadw’ch hunain yn brysur ac yn ddiddig yn ystod y cyfnod clo yma. Dan ymbarel Cwiltwyr Dyffryn Clwyd bum yn gwnïo bagiau i ddal ‘scrubs’ ar gyfer rheini sy’n gweithio’n ddiflino yn ein hysbytai. Mae angen iddynt newid o’u dillad gwaith yn syth, eu rhoi mewn bag a’u golchi ynddo fo fel nad ydynt yn heintio dilladau eraill. Dwi hefyd wedi bod yn gwnïo masgiau rhag ofn y bydd angen eu gwisgo pan fyddan nhw’n llacio’r rheolau – y sôn ydy y bydd angen masg i siopa neu i fynd ar drafnidiaeth gyhoeddus. Os oes rhywun eisiau patrwm ar gyfer bag neu fasg, cysylltwch.
Mae’r mudiad wedi dechrau ymgyrch crefft “Gartref gyda’n gilydd” ac os ewch ar wefan MyW fe welwch neges gan Tegwen yn gofyn i ni greu Blodau Gobaith mewn unrhyw gyfrwng a rhannu lluniau o’n cynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae rhai lluniau ar y wefan hefyd o flodau lliwgar wedi, er enghraifft, eu gwau, gwnïo, crosio a’r gobaith ydy medru creu arddangosfa liwgar ohonyt i gyd yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron y flwyddyn nesa. Beth amdani? Ewch i gael cip ar y wefan i gael syniadau.
Mis Mehefin
Gwn ei ddyfod, fis y mêl,
Gyda’i firi yn yr helyg,
Gyda’i flodau fel y barrug;
Gwyn fy myd bob tro y dêl.
Dyna ddywedodd Eifion Wyn am fis Mai, a do, fe ddaeth ac fe aeth a sawl digwyddiad yn ei sgil. Fe aeth Gwyl Haf Merched y Wawr yn rhithiol ar raglen Pnawn Da a Facebook. Fe yrrodd Cheryl Postiad Gwyl Haf atoch ychydig yn ôl a dwi’n gobeithio i chi weld ei llun hi gyda’r tystysgrif am yr 2il wobr am Gynnydd Aelodaeth yn y Gogledd. Da ynte? Rhaid mynd ati i anelu am y wobr 1af flwyddyn nesa, felly ewch ati i genhadu ymysg eich ffrindiau a chydnabod!
A sôn am flwyddyn nesa (pryd bynnag daw honno) rydym fel swyddogion wedi cynnig parhau yn ein swyddi am flwyddyn arall. Mae’r swyddogion ar y pwyllgorau cenedlaethol wedi cytuno i wneud hyn er mwyn hwyluso rhediad y mudiad ac felly rydym am ddilyn eu hesiampl a gwneud yr un peth er mwyn gallu gorffen yr hyn a gychwynwyd, fel petae. Gobeithio y bydd hyn yn dderbyniol gennych. Mae Cheryl wedi sicrhau fod y siaradwyr y bu’n rhaid eu gohirio eleni yn dod atom yn ddiweddarach eleni a rhaid mynd ati nawr i drefnu gweddill y rhaglen. Os oes gennych syniadau, cofiwch adael inni wybod.
Digwyddiad arall a ddaeth ac a aeth, yn rhithiol hefyd, oedd Eisteddfod yr Urdd. Mi fuasem wedi cael wythnos fendigedig i gynnal yr Wyl ar gaeau Kilford ac wedi gallu croesawu Cymru i Sir Ddinbych ar ei gorau. Gobeithio i chi fwynhau arlwy Eisteddfod T ar Radio Cymru ac S4C. Roedd yn go wahanol ond yn llawn miri a hwyl. Doedd dim pabell MyW i’w haddurno na channoedd o baneidiau i’w gwneud eleni, ond daw ein tro ni eto flwyddyn nesa!
Os ydych ffansi ymuno â ni rydym yn cyfarfod yn festri Capel y Fron am 7:30 ar nos Fercher cyntaf y mis. Y gobaith yw y bydd ein tymor newydd yn cychwyn (croesi bysedd) ar Fedi 2il. Felly, dewch i ymuno â ni er mwyn profi’r WAW yn Merched y WAWr!
