Bagiau Lles Oedolion
Fe gofiwch sôn yn y rhifyn diwethaf am lwyddiant gwirfoddolwyr Pwyllgor Carnifal Dinbych gyda’u bagiau Crefft a Lles ar gyfer plant. Yn fuan wedi cyhoeddi’r rhifyn hwnnw llwyddasant i gael digon o gymorth ariannol gan y Cyngor Tref i sefydlu gwasanaeth tebyg i oedolion sydd wedi eu heffeithio mewn rhyw ffordd gan yr argyfwng. Newyddion gwych. Mae’r manylion ar dudalen Facebook y carnifal.
Deiseb Coleg Harlech
Gofynnwyd i ni ledaenu’r neges am y ddeiseb hon. Gweler isod wybodaeth a dderbyniom (wedi ei olygu ychydig).
Mae Cymru wedi ddioddef o bla y tai haf ers degawdau lawer a bellach, mae tir ac eiddo yn ein gwlad yn cael ei werthu a'i brynu ar gyflymder dychrynllyd fel na welwyd erioed o'r blaen a hynny gan syndicatiaid o Loegr yn ogystal ac unigolion, ac os na ellir, hyd yn oed, lofnodi'r ddeiseb sydd yn y ddolen isod i achub Coleg Harlech rhag cael ei ddymchwel i ganiatáu i 'reibwyr' allu adeiladu tai a fflatiau,yna, does dim gobaith o achub Cymru rhag ei 'diwedd ddyddiau'. Os achubir y coleg gelllir ei ddefnyddio fel coleg i hyfforddi Cymru di-waith mewn pob math o sgiliau fydd eu hangen yng Nghymru wedi Covid-19. Mae angen 5000 o lofnodion os yw'r ddeiseb i'w thrafod yn y Senedd. Dewch i ni fynegi'n glir ein bod yn ymladd yn ôl o'r diwedd ac mai achub Coleg Harlech yw'r weithred gyntaf yn y brwydro'n ôl i warchod yr hyn sydd ar ôl o Gymru cyn iddi ddod yn rhan o fap Lloegr am byth.
