Yn gynnar yn 2019, ysgrifennais erthygl i’r Bigwn. Prif ffocws yr erthygl oedd hanes fy nheulu a bu yn rhan o’r ymadawiad enfawr o Geredigion lawr i Lundain yn ystod yr ail hanner y 19eg ganrif a’r degawdau cynnar o’r 20fed ganrif. Yn fy nheulu, roedd gyfanswm o saith (tri brawd a pedair chwaer) wedi cymryd y penderfyniad dewr i symud i’r brifddinas. Fel nifer helaeth eraill o Geredigion, sefydlwyd busnes llaethdy gan bob un o’r tri brawd a pedair chwaer. Un o’r saith oedd fy nhad-cu, Evan Evans a oedd, gyda’i wraig Mary, wedi sefydlu llaethdy yn Clapham.
Roedd y ddau yn wir aelodau ffyddlon o Eglwys Bresbyteraidd Cymru Clapham Junction. Mewn digwyddiad echryslon, lladdwyd fy mam-gu a’n dad-cu ar 18fed Medi 1940 yn ystod y Blitz. Yn hynod o ffodus, roedd eu plant, Margaret (fy mam) a oedd yn 13 mlwydd oed ar ddechrau Rhyfel Byd 2 a’i brawd David (8) yn faciwîs ger Tregaron.
Yn 1962, symudodd Margaret i Ddinbych gyda’i gwr Les Phillips a’u pedwar o blant John, Goronwy Siencyn, Tegid a Mair. Felly, dyma un cysylltiad rhwng Dinbych a’r Eglwys Bresbyteraidd Cymru Clapham Junction.

David a’i wraig Elizabeth
Darganfuwyd ail gysylltiad rhwng y dref a’r Eglwys wrth imi edrych ar hanes fy hen fodryb Elizabeth (Leis) ac yn enwedig ei gŵr David Griffiths – ond roedd pawb yn ei ‘nabod fel Dafydd. Fel Evan a Mary, roedd Leis a David yn aelodau ffyddlon o Eglwys Bresbyteraidd Cymru Clapham Junction. Wrth hela am fwy o wybodaeth, syrthiais ar draws dau ddarn o farddoniaeth a ysgrifennwyd fel teyrnged i David pan fu farw yn 79 mlwydd oed ar 26ain Hydref 1956. Un o’r ddau fardd oedd John Hooson (ffugenw Hiraethus) a gweler ei gerdd isod. Yn dilyn sgwrs ddiddorol gyda John Davies, Colomendy, am gysylltiad cryf y teulu Hooson gyda Dinbych, aethom o gwmpas i edrych i mewn i hanes John Hooson. Mawr oedd ein pleser wrth ddarganfod ei fod yn unigolyn o ochrau Dinbych. Fel plentyn, bu John yn byw yn Maelor, Saron ac wedyn Colomendy a’r Graig ger Dinbych.

David Griffiths, ei fab David Griffiths , ei wraig Elizabeth a'i frawd yng nghyfraith John Davies yn niwrnod graddio'r mab yng Nghaergrawnt
Roedd yn ddisgybl yn ysgol Prion ac wedyn yr ysgol sir, Dinbych, cyn mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Cymru, y Sorbonne a hefyd ym Mhrifysgol Berlin. Dipyn o deithiwr! Ac yn wir academic! <Llun graddio> Am dros ddeng mlynedd ar hugain , mi oedd yn athro Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg yn ysgol City of Westminster, Llundain.
Yn ôl ei nai, Y Barwn Emlyn Hooson, Aelod Seneddol Sir Drefaldwyn o 1962-77, prif ddiddordeb John Hooson oedd bywyd a diwylliant Cymru, yn enwedig yn Nyffryn Clwyd a Bro Hiraethog. Yr oedd yn awdurdod ar enwau lleoedd yr ardaloedd hyn a hefyd ar eu henwogion fel y teulu Myddleton, Thomas Jones a Thomas Gee. Bu’n darlithio yn gyson ar agweddau Cymreig a hefyd yn cyfrannu i nifer helaeth a chylchgronau fel The London Welshman, Y Drysorfa ac i bapurau lleol yng Nghymru. Bu'n amlwg ym mywyd crefyddol Cymry Llundain ac yr oedd yn flaenor yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, Clapham Junction, am gyfnod maith.
Ac felly'r cysylltiad gyda fy hen ewythr David Griffiths, a oedd hefyd yn flaenor yn yr Eglwys am gyfnod maith. Mawr yw’r balchder o fewn y teulu bod rhywun fel John Hooson wedi talu teyrnged i aelod pwysig ein teulu mewn modd mor greadigol a safonol. Bu farw John Hooson yng Ngorffennaf 1969 yn 86 mlwydd oed.
Fel troednodyn, dros y ddwy flynedd diwethaf mae cysylltiad Dinbych, fy nheulu a Clapham wedi datblygu unwaith eto, gydag un o’m merched, Megan, nawr yn byw i lawr yn faestref Clapham. Mae'r byd yn wir lleihau!!
Tegid Phillips
CERDD GOFFA AM Y DDIWEDDAR MR DAFYDD GRIFFITHS
GAN ‘HIRAETHUS’ (MR JOHN HOOSON)
Un o feibion Ceredigion
Un o radlon plant y Nef,
Y ffyddlonaf o ffyddloniaid
Eglwys Clapham ydoedd ef.
Hoffai sôn am fro o febyd
Ac am fwthyn bach to gwellt
A gysgodid gan hen dderwen
Wedi ei deifio gan y mellt.
Hoffai sôn am deulu’r bwthyn
Ac am ofal tyner mam
A adawyd i amddiffyn
Tri amddifad am bob cam.
“Enwai mam ni’n tri yn araf
John fy mrawd a Mari a mi,
Cymer hwynt i’th ofal tirion ,
Tad ’ramddifad ydwyt ti.”
A nid aeth y llais yn angof
Tra bu Dafydd yma’n byw,
Cadwodd ef rhag pob rhyw rysedd
A rhag gadael llwybrau Duw.
Ymddigrifai yn y llwybrau
Llwybrau graslawn mab y saer,
A fe gredai hyd y diwedd
Yn nylanwad gweddi daer.
Ef oedd lusern yn goleuo
Ac yn tystio’n null y sant
Mai llawenydd a thangnefedd
Ydyw rhoddion Duw i’w blant.
Canys llawen fu ei rodio
Yn yr haul ac yn y glaw,
Pwy all fyth anghofio croeso
Ei lygad llon a’i ysgwyd llaw?
Hoffai englyn a chynghanedd
Odlau peraidd yr Hen Wlad,
Ond mwy fyth yr Ysgrythyrau
Ac emynau tŷ ei Dad.
Cwmni’r saint oedd ei hyfrydwch
Ar ei daith yr ochor hyn,
A rhyfeddu’r “ddwyfol goncwest
Gafwyd ar Galfaria fryn”.
Chwith yw dringo’r rhiw i’r capel
Heb ei gwmni diddan ef,
Chwith yw Ysgol Sul a seiat
Heb ei ddwys a’i ddistaw lef.
Ond na fydded inni gwyno
Am ei ymadawiad ef,
Onid oedd yn un ohonynt
Etifeddion Teyrnas Nef!
