Efallai na fydd drysau blaen Cyngor ar Bopeth ar agor eto ond nid yw hynny'n golygu nad ydynt yn darparu eu gwasanaeth cynghori arferol. Mewn gwirionedd, mae eu gwasanaeth "rhithiol" yr un mor brysur ag yr oedd erioed!
Dywedodd Lesley Powell, Prif Swyddog Gweithredol, "Rwy'n falch iawn o allu cael y sianel hon i'n cymunedau - mae'r Bigwn yn un o'r ychydig bapurau y mae pobl yn eu darllen yn ofalus!
Mae ein cleientiaid yn derbyn yr un gwasanaeth yn union ag arfer. Rydym yn ei wneud yn wahanol, drwy sianeli ffôn ac yn ddigidol. Rydym hefyd yn llawn cyffro o fod yn agor gwasanaeth fideo hawdd ei ddefnyddio ym mis Hydref, lle gall pobl glicio ar ddolen a siarad ag un o'n staff neu wirfoddolwyr wyneb yn wyneb ar sgrin. Rydym am sicrhau y gall pobl ein cyrraedd yn hawdd tra bod angen inni weithio i ffwrdd o'r prif swyddfeydd. Fodd bynnag, rydym yn barod i agor ein drysau ffrynt cyn gynted ag y gallwn gyda'r holl Gyfarpar Diogelwch Personol (PPE) a mesurau perthnasol ar waith."
Mae pawb yn gweithio'n eithriadol o galed i sicrhau ein bod ar gael ac yno i gefnogi pobl pan fydd eu hangen arnom, ac ers mis Mawrth eleni:
- Mae gennym dros 70 o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio gartref
- Atebwyd dros 3,500 o ymholiadau cleientiaid
- Helpwyd dros 800 o bobl gydag ymholiadau penodol am Covid 19
- Cychwynodd 8 gwirfoddolwr newydd
- Recriwtiwyd 3 person i leoliadau gwaith cyflogedig
- Enillwyd £3.1 miliwn mewn budd-dal a chredyd i gleientiaid
- Ymdriniwyd â £2.3 miliwn o ddyled ar ran cleientiaid.
Wrth i'r “Mesurau Dioddefgarwch” megis “Furlough” a gohirio talu morgais dros dro ddod i ben, rydym yn gwybod y bydd pobl yn troi atom am gyngor ar ddyled a chyflogaeth yn arbennig. Rydym yn barod i ddarparu'r cyngor hwnnw.
*************************
Cynhesu Cymru
Wedi ariannu gan Ymddiriedolaeth Ynni Nwy Prydain, mae cynghorwyr Cynhesu Cymru yn cynnig cyngor di-dâl, diduedd a chyfrinachol ar sut i gadw’ch cartref yn gynnes. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar ddod o hyd i'r bargeinion ynni gorau, ar ddefnyddio ynni’n effeithlon, dyled a sut i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl incwm sy’n ddyledus i chi.
Dyma sut y gwnaethom helpu un o'n cleientiaid. Cysylltodd Joe (nid ei enw iawn) â ni am gyngor ar leihau ei gostau ynni. Gwnaethom ei helpu i wneud cais i’r Cynllun Gostyngiad Cartref Cynnes, a olygai ei fod wedi derbyn credyd o £140 tuag at ei fil ynni. Fe'i cyfeiriwyd hefyd at gynllun Llywodraeth Cymru, sef NYTH/NEST – Gwneud Cymru’n Glyd, a gadarnhaodd ei fod yn gymwys i gael boeler a gwresogwyr newydd.
Yn ogystal, oherwydd ei gyflyrau iechyd, fe'i cofrestrwyd ar gofrestr gwasanaethau blaenoriaethol ei gyflenwyr ynni, sy'n golygu eu bod yn ymwybodol o'i gyflyrau iechyd ac yn gallu darparu cymorth ychwanegol ar ei gyfer.
Roedd Joe wrth ei fodd fod ei alwad ffôn i ofyn am gyngor wedi arwain at ganlyniad mor wych.
Os hoffech chi, fel Joe, sgwrsio ag un o'n harbenigwyr ynni am ragor o wybodaeth neu gyngor, cysylltwch â ni ar 01745 818087.
John Davies
(ar ran Cyngor Ar Bopeth Sir Ddinbych)
