Y Bigwn

Wythnos 16 – nos Wener                                                                

Peth rhyfedd ydy dim. Fel arfer dydy o’n dda i ddim. Mae’n rhaid iddo gael y gair un efo fo i wneud unrhyw synnwyr.

Dydy o ddim yn dwyn newyddion da o ran y tywydd neu sefyll arholiad. Ac eto fe all o fod yn destun newyddion da.

Yr wythnos hon fe fu yn destun newyddion da, newyddion sy’n werth eu lledaenu..

Dydd Llun, Gorffennaf 6ed

Mae’n bwysig cofio’r dyddiad. Dyna’r diwrnod y cofnodwyd na chollodd yr un person yng Nghymru ei fywyd i gofid -19.

Roedd gweld 0 ar y daflen yn codi calon pob un ohonom. Dyma’r hyn y buom ni’n aros amdano ers wythnosau, ers misoedd.

Efallai na fyddai’n 0 drannoeth, ond dyma’r arwydd ein bod ni’n mynd i’r cyfeiriad cywir.

Yr hyn sydd angen rŵan ydyw gweld  o yn y golofn ar gyfer yr  achosion newydd. Daw, fe ddaw hynny ryw ddydd.

Daeth y newydd hefyd bydd ein  hysgolion ar agor i holl ddisgyblion Cymru ym mis Medi.

Braidd yn denau ac aneglur oedd y manylion gan Kirsty Williams. Ai fi oedd yr unig un a oedd yn meddwl ei bod hi’n ymosodol o amddiffynnol wrth ddatgelu’r newyddion?

Trueni nad yw’n newyddiadurwyr ni yng Nghymru yn gofyn y cwestiynau sydd ar wefusau rhieni’n disgyblion.

 

Wythnos 17 - Nos Wener                                                                                                                              

Normalrwydd erbyn y Nadolig, meddai’r gwleidydd Boris Johnson. Go brin, meddai’r arbenigwyr, y gwyddonwyr.

Gan bwyll, meddai Mark Drakeford a Nicola Sturgeon. Yn araf deg y mae cael Wil i’w wely.

Chwarae teg i’r hen Boris meddwl am yr economi y mae o - tra bod Nicola a Mark yn meddwl am iechyd a lles eu pobl.

Byddem oll yn hoffi gweld bywyd fel ag roedd o cyn i gofid-19 fwrw’i gysgod drosom. Oes mae yna fygythiad o ail don, ond  pe byddem oll yn  cadw at reolau’r gêm byddai gwell gobaith i normalrwydd ddychwelyd i’n bywydau.

Ond, yn anffodus, yn  Lloegr beth bynnag y mae yna rai yn mynd dros ben llestri ac yn anwybyddu’r canllawiau ynglŷn â chadw pellter cymdeithasol gan heidio i draethau, rêfs a dathlu campau eu timau pêl-droed.

Ac o sȏn am bêl-droed, rydwi wedi sylwi ar y chwaraewyr yn cofleidio’i gilydd ac yn poeri–dau weithgaredd sydd wedi’u gwahardd yn ȏl y canllawiau gwreiddiol.

Rhyfedd fel y mae rhai pethau yn mynd yn angof yng ngwres y frwydr.

Yma yng Nghymru cawn gynnal oedfaon o’r Sul hwn ymlaen os wnawn ni gadw at ganllawiau - canllawiau na fedr y mwyafrif o’n heglwysi eu dilyn o ran stiwardio a diheintio’r adeilad oherwydd oedran ein haelodau. Heb sȏn am gadw cofnod manwl o bwy sydd yn eistedd ym mha sedd neu fainc.

Ac ar ben hynny chawn ni ddim canu yn yr oedfaon!

Yn y mwyafrif helaeth o siroedd Cymru roedd hi’n ddiwedd y flwyddyn ysgol heddiw. Do, fe gafwyd canllawiau ond a fydd y canllawiau hynny yn weithredol ym mis Medi?

Gawsoch chi dorri’ch gwallt neu drin eich ewinedd yr wythnos hon? A ydych chi ofn mentro hi ar hyn o bryd?

Mae’n rhyfedd fel y mae ansicrwydd cynifer ohonom wedi cynyddu dros yr wythnosau y buom dan glo.

Ein cael i adennill ein hunanhyder ydy tasg pob llywodraeth a osododd ei phobl dan glo.

 

 

Wythnos 18 -Nos Wener

Wythnos gyntaf gwyliau haf i ddisgyblion ysgol yn y mwyafrif o siroedd Cymru tra roedden nhw ar un adeg yn meddwl y bydden nhw yn dal wrth eu desgiau tan ei diwedd hi.

Hon oedd wythnos ychwanegol  Kirsty Williams. Roedd hi am roi wythnos arall o wyliau iddyn nhw ym mis Hydref petai ysgolion yn aros ar agor yr wythnos hon.                                                                                                                                                                     

Pam nad ydyn nhw?

Cytundebau gweithiwyr mewn ysgolion yn dod i ben oedd yr esboniad a roddwyd, ac eto fe ddywedodd un athro wrtha i (sydd yn gweithio yn Sir Conwy) na chafodd ysgolion  yn y sir honno  ddim trafferth o ran hynny.

Y cwestiynau  a gyfyd ydy, “A fu’n rhaid i unrhyw un  sydd yn gweithio mewn ysgol dderbyn cyflog o dan y cynllun furlough? A gawson nhw gyflog llawn yn ystod y misoedd diwethaf pan nad oedden nhw’n gorfod mynd i’r ysgol bob dydd?”

Os mai’r ateb ydy “Na” i’r cyntad a “Do” i’r ail, yna onid ydy’r undebau wedi clywed am yr ymadrodd ewyllys da.

Hefyd a wnaeth yr undebau ofyn am farn eu haelodau?

Dim ond gofyn ydw i.

Peth braf ydy medru d’eud bod yna sawl diwrnod bellach heb unrhyw farwolaeth o achos cofid-19 yng Nghymru. Os na fydd yna farwolaeth dros nos, fydd yna ddim marwolaeth wedi bod ar saith o’r unarddeg diwrnod diwethaf.

A gawsom ni’r newyddion da hynny yn cael eu cyhoeddi gyda gwên ar y cyfryngau?

Naddo, roedd yn well gan y newyddiadurwyr a’r gohebwyr holi’r gwleidyddion yn dwll am eu trefniadau ar gyfer yr ail don o gofid-19 cyn i’r don gyntaf ddod i ben.

Wyddwn i ddim fod yna gymaint ohonyn nhw yn arddel yr enw canol Job.

Un peth sydd yn fy nghythruddo ydy gweld y cyfryngau yn cyfeirio at ystadegau Lloegr fel rhai ar gyfer Y Deyrnas Unedig, a minnau yn gwybod yn iawn na fu yna unrhyw farwolaethau yng Nghymru na’r Alban  ar gyfer y diwrnod dan sylw.

Y “Brit Factor” unwaith eto ar waith.

 
Wythnos 19 – Nos Wener

Sachliain a lludw. Y newyddiadurwyr oedd yn llygad eu lle a minna’ yn hollol anghywir.

Eisoes mae’n ymddangos bod yr ail don wedi’n cyrraedd. Nid yn unig yn Lloegr yr ymddengys hynny, ond yng Nghymru hefyd, ac yn fwy penodol yma yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

A ydym ni wedi codi’r gwaharddiadau yn rhy sydyn neu a ydy pobl wedi llacio’u gafael ar y canllawiau hanfodol a gawsom ni yn y  lle cyntaf?

Mae yna rai yn anhapus iawn ar ȏl mynd i Sbaen ar eu gwyliau, ac yna derbyn gwybodaeth y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd dan gwaratîn am bythefnos ar ȏl dod yn ȏl i Brydain.

 Does gen i fawr o amynedd efo nhw. Roedden nhw’n gwybod o’r cychwyn cyntaf fod yna berygl i hynny ddigwydd.

Wedi’r cyfan fe ddywedodd un o weinidogion y Llywodraeth Brydeinig nad oedd yn beth doeth i fynd dramor ar wyliau eleni.

Beth wnaeth un o’i gyfeillion yn y Cabinet? Mynd ar wyliau i Sbaen, wrth gwrs.

Wythnos 20 – nos Wener

Wel, dyma wythnos yr Eisteddfod yn dod at ei therfyn. Yn hytrach, dyma “dim Eisteddfod” yn dod i ben.

Rhaid cydnabod imi anghofio popeth am yr Eisteddfod Amgen tan oedd hi’n rhy hwyr. Gormod o bethau eraill yn mynd â fy mryd, mae’n rhaid.

Eto i gyd rydwi’n edrych ymlaen at weld cyngerdd Edward H. nos yfory, ac fe wnes i fwynhau’r rhaglen am y sioeau cerdd.

O leiaf eleni chafodd yr un o ben bandits yr Eisteddfod gyfle na’r llwyfan i roi’i ddwy droed ynddi gydag araith ymfflamychol.

Yn hytrach fe wnaeth gwleidyddion Gweriniaeth Gwynedd gamu i’r adwy gan ofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth am y miloedd ar filoedd o ymwelwyr sy’n tyrru yno oherwydd y tywydd braf.

Wrth wneud hyn mae’r ymwelwyr yn dadwneud yr holl waith da a wnaed yn ystod y cyfnod clo gan roi bywydau’r trigolion mewn perygl.

 Rydwi’n cytuno â safbwynt y Gwyneddigion, ond oni ddylen nhw gynnig awgrymiadau i’r Llywodraeth?

Hawdd d’eud wrth eraill, “Mae’n rhaid g’eud rhywbeth am hyn.” Y gamp ydy cynnig atebion cadarn i’r Llywodraeth.

I aralleirio un o’r hogia’ yn y rhaglen Jabas flynyddoedd yn ȏl, “ Dwi wedi cael brên wêf.”

Trist ydy’ gweld yr ystadegau o ran cofid-19 ar gynnydd ym Mhrydain, ond calonogol ydy’ gweld  gostyngiad yng Nghymru.

Wythnos 21 – nos Wener

Llanastr llwyr!

Dyna’r unig eiriau parchus fedr rhywun eu defnyddio wrth ddisgrifio’r hyn ddigwyddodd eleni wrth ddyfarnu graddau Lefel A i’n myfyrwyr chweched dosbarth.

Gan nad oedd modd i’r un ohonyn nhw sefyll arholiad allanol, fe wnaeth Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru gael brên wêf- gofyn i’w hathrawon osod y disgyblion yn ȏl trefn teilyngdod o ran marciau a graddau.

Syniad da. Wedi’r cyfan yr athrawon sydd yn adnabod y disgyblion orau.

Ond yna fe wnaeth Y Cyd -Bwyllgor benderfynu yn eu doethineb y bydden nhw’n hoffi ffidlan efo’r canlyniadau hyn ar sail canlyniadau ysgolion unigol dros y tair blynedd ddiwethaf.

Y canlyniad fu gostwng graddau nifer o ddisgyblion un neu ddwy radd.

Fe glywais i am fyfyriwr y dyfarnwyd gradd A iddo gan ei ysgol yn derbyn gradd D.

Ond, dyna fo. Fe sicrhaodd y Cyd-Bwyllgor fod canran y graddau uwch wedi codi, ac fe wnaeth hynny blesio’r hen Mark Drakeford.

Mae nghalon i’n gwaedu dros y bobl ifainc a gafodd y fath gam gan y byrddau arholi yn holl wledydd Prydain, ac roeddwn i’n falch o glywed cynifer o                         Benaethiaid yn datgan eu dicter.

Lluchio llwch i lygaid pobl gyda’r geiriau algorithmau a modelau wnaeth y dynion mewn siwtiau llwyd.

Dwn i ddim beth olyga algorithm i  Mrs Jones Llanrug, chwedl Gwilym Owen, ond mae gen i gof am dablau logarithm fel y peth mwyaf cymhleth yn  y gwersi Mathemateg flynyddoedd maith yn ȏl.

Yn yr un modd, pobl oedd yn arddangos dillad yng nghatalog John Moores fu modelau i hogyn bach cyffredin o’r wlad.

O, am anfon y siwtiau yn ȏl i’r ysgol i ddysgu siarad yr un fath â phobl gyffredin.

Pum mil. Na nid sȏn am borthi’r pum mil ydw i, ond am y pum mil o bobl  sydd wedi diflannu oddi ar ystadegau marwolaethau o Gofid -19 ym Mhrydain.

Do, maen nhw wedi marw, ond nid o ganlyniad uniongyrchol i fod yn dioddef o goronafeirws.

Dach chi’n gweld, roedd yna ormod o amser wedi mynd heibio cyn y gellid dweud mai’r aflwydd hwn oedd achos eu marwolaeth.

Sȏn am wledydd eraill yn chwarae’r gêm ystadegol!

Gan orffen ar nodyn ysgafnach, fe hoffwn nodi imi heddiw fynd ar fy nhaith hwyaf eleni. Ffarwél i deithio o amgylch tref Dinbych yn unig. 

Fe aethom ni draw i dref y Cofis.

Roedd hi’n hyfryd mynd dros yr aber i Goed Helen gan gyfarfod ag aelodau o’r teulu na welais mohonyn nhw ers mis Chwefror.

Gyda’r haul yn tywynnu a chwch Dafydd Rabar yn llithro’n osgeiddig drwy’r dŵr, pwy sydd angen mynd i Ffrainc ar ei wyliau pan fo gennych chi’r South of France, chwedl y Cofis, o dan furiau’r castell?

Wythnos 22 – nos Wener

Doedd yr hen Margaret Thatcher ddim yn fodlon troi ar gyfer unrhyw un.

Wel, yr wythnos hon fe wnaeth llywodraethau gwledydd Prydain  wneud sawl tro pedol na welwyd mo’u tebyg o’r blaen.

Fe wnaethon nhw blygu i leisiau croch pobl ifainc gan newid y drefn o ran dyfarnu graddau mewn arholiadau allanol.

Tipyn o beth oedd gorfod cydnabod bod eu cyfundrefnau nhw’n annheg a gwyrdroi’r cyfan. Mwy o beth fyth oedd gweld Gweinidogion Addysg yn gorfod ymddiheuro gan ddweud y gair sydd yn brifo pob gweleidydd i’w ynganu – “Sori.”

A hyn i gyd oherwydd Cofid-19!

Diddorol oedd gweld nad oedd unrhyw un ohonyn nhw yn fodlon ymddiswyddo gan fantesio ar  y cyfle i ganmol eu hunain am yr hyn roedden nhw’n ei wneud dros y bobl ifainc.

Gormod o ymwelwyr. Dyna’r gri o wahanol ardaloedd yng Ngweriniaeth Gwynedd.

Anghredadwy oedd clywed un cynghorydd  yn dweud nad oedden nhw eisiau gweld y werin bobl yn dod ar eu gwyliau i Ben Llŷn.

Roedd o, serch hynny, yn fodlon croesawu’r rhai hynny a oedd gyda digon o fodd i aros mewn gwestai.

 Llongyfarchiadau i Bethan Rees Roberts am ei gornelu mor ddeheuig ar newyddion BBC Cymru.

Mae hi’n sefyllfa anodd, fel y cydnabu un Cymro Cymraeg sydd yn cyflogi 45 o bobl mewn siopau bwyd ym Mhen Llŷn.  

Ei argyfwng o ydy diogelu iechyd pobl leol tra ar yr un pryd diogelu swyddi lleol. Yr hen, hen stori mewn ardal sy’n ddibynnol ar y diwydiant ymwelwyr.

Wythnos 23 – nos Wener

Mygydau! Dyna fu’r gair allweddol yr wythnos hon.

Bydd ein plant a’n pobl ifainc yn dychwelyd i’r ysgol yn ystod y dyddiau nesaf  - wel cyn Medi 14eg beth bynnag - ac a ddylai hi fod yn orfodol iddyn nhw wisgo masgiau oedd pwnc llosg y dyddiau diwethaf.

Dylent, meddai rhai arbenigwyr. Na ddylent, meddai arbenigwyr eraill. Dydyn ni ddim yn gwybod, meddai’r gwleidyddion, felly gadewch inni yn ȏl ein harfer  aros tan y munud olaf un cyn gwneud penderfyniad.

Fe fedrwn ni werthu masgiau i chi, meddai’r siopau. Tri am £15 neu un am chwe phunt.

Chwe phunt am un masg! Dyna ydy manteisio ar bobl ddiniwed.

Yr hyn na ddywed unrhyw un ydy bod pob plentyn angen mwy nag un masg y dydd, a phan fo pedwar plentyn mewn teulu tlawd y mae hyn  yn codi arswyd ar rywun.

Do, rydwi wedi bod yn gwisgo mwgwd ar adegau pan nad oedd modd ymbellhau yn gymdeithasol. Mwy na’r mwyafrif o bobl dydwi ddim yn hoffi’i wisgo fo, ond fe wn i y gall fod yn allweddol er mwyn fy niogelu i a diogelu eraill.

Ond fe wn i nad ydy o’n dda i ddim o amgylch fy ngwddw neu o dan fy nhrwyn i. Ac, yn anffodus, dyna sut mae llawer o bobl yn gwisgo’u mygydau

Ac o sȏn am drwyn, rydwi’n synhwyro y bydd yna bobl yn g’neud pethau gwirion dros y Sul gan fod dydd Llun yn Ŵyl Y Banc. Byddan nhw’n heidio i’r traethau a’r mynyddoedd, ac y mae yna ddarogan y caiff ambell rêf  ei chynnal yma ac acw.

Does ond gobeithio y bydd hi’n bwrw glaw yn drwm a gwynt oer yn chwythu o’r gogledd.

Wythnos 24 – nos Wener

Dyma ni. Mae’r ysgolion yn agored unwaith eto.

Mae’n plant a’n pobl ifainc ni wedi dychwelyd i sefyllfa ryfedd iawn ar ȏl bod drwy sefyllfa ryfeddach fyth.

Roedd rhai ohonyn nhw yn mynychu sefydliad addysgol am y tro cyntaf er chwe mis, ac roedd chwithdod hynny yn amlwg ar y wynebau ansicr.

Roedd athrawon yn garedig efo nhw, medden nhw, a hynny yn rhoi hyder iddyn nhw.

Mor wahanol i’r prifathro hwnnw a roddodd glustan i fachgen bach am beidio â’i alw fo yn Syr, a hynny cyn imi groesi trothwy ei ysgol o!

Dyna’r croeso a roddodd o i newyddian wyth oed.

Bore gwlyb iawn oedd hi fore Iau mewn rhannau o Gymru gydag un athrawes yn cwyno bod ei sbectol hi’n stemio wrth iddi wisgo mwgwd tra’n croesawu myfyrwyr tu allan i’w hysgol.

Roedd hi’n cael trafferth i adnabod y disgyblion a oedd hefyd yn gwisgo mygydau â chwfl (hood) dros eu pennau.

Ond i goroni’r cyfan roedd ei cholur hi’n rhedeg wrth iddi arllwys y glaw.

Drannoeth ei chŵyn hi oedd y gyfundrefn un ffordd yn yr ysgol a’i gorfododd i gerdded 5 milltir y diwrnod hwnnw.

Beth fyddai mudiad protest un ffordd tref Dinbych yn ein dd’eud am hynny?

Athro arall yn d’eud iddo anfon ei ddisgyblion mewn ysgol gynradd i “olchi’u dwylo 14 o weithiau heddiw!”

Ond y rhai mae nghalon i’n gwaedu drostyn nhw ydy’r bobl hynny a aeth ar wyliau i ynysoedd Groeg a Phortiwgal, ac sydd bellach wedi darganfod bod yn rhaid iddyn nhw fynd i gwarantîn  ar ȏl dod yn ȏl i Gymru.

Druan ohonyn nhw, y pethau bach. Onid oedden nhw’n sylweddoli mai dyna  natur y camau sydd yn rhaid eu cymryd ar adeg pandemig?

Ond o leiaf roedd ganddyn nhw liw haul ardderchog.

Stan Lyall