
Y Robin Goch
Pan dach chi’n clywed cerddoriaeth ar Radio Cymru mae gennych chi syniad go dda o bwy sy’n canu. Byddech chi’n adnabod Bryn Fôn, Elin Fflur ac, os dach chi’n ddigon hen, Edward H Dafis. Ond nid y fath yna o gerddoriaeth yw’r unig fath dach chi’n ei glywed mewn diwrnod. Sut ydach chi efo caneuon yr adar? Os ydach chi fel fi, fyddech chi ddim yn rhy dda. Gresyn nad oes DJ yna i gyflwyno fel “A dyma, yn rhad ac am ddim, y robin goch i ganu ‘Cheap, Cheap!’”
Rhestr go fyr yw’r caneuon adar dw i’n adnabod sef - ysguthan, pioden, y fwyalchen, sgrech y coed, brain a’r robin goch. Tydi hynny ddim yn ddigon da. Roedd Daniel Jenkins Jones yn arbennig ar y rhaglen Natur a Ni wrth gyflwyno cân aderyn bob wythnos ac esbonio sut i’w gofio. Er i mi drio’n galed doedd hynny ddim yn gweithio i mi, yr unig un alla i gofio yw’r robin goch.
Ddoe pan oeddwn i wedi mynd am dro cyn i’r haul godi, roeddwn yn clywed y robin goch ym mhob man, bron fel oedd yn fy nilyn i ar y daith. Y gwir oedd roedd llawer ohonyn nhw ond mi wnaeth wneud i mi feddwl. Tu ôl i gan y robin roedd llawer o ganeuon eraill. Tybed os dw i’n troi’r broblem wyneb i waered a chanolbwyntio ar un o’r caneuon eraill a thrio ei glywed mewn gwahanol lefydd yn ystod y daith? Gwneud yr un peth y tro nesaf, a’r nesaf am wythnos gyfan tan i mi fod yn hollol gyfarwydd â’r gân wedyn chwilio am y canwr, bydd hynny’n ffordd well? Treulio wythnos neu ddwy i sicrhau mod i’n ddigon cyfarwydd ac wedyn mynd am y nesaf.
Petaswn i ddim ond yn dysgu pedwar newydd bob blwyddyn mi fydda i wrth fy modd!
Beth amdanoch chi? Os dach chi eisiau gwneud yr un peth, ewch allan tuag awr cyn y wawr a chyn i sŵn y drafnidiaeth ddechrau, a mwynhewch!
Yn anffodus mae teithiau Cymdeithas Edward Llwyd wedi cael eu gohirio achos cyfyngiadau’r coronafeirws. Edrychwn ymlaen am ddyddiau gwell i ni i gyd.
Cadwch yn ddiogel
Rob Evans
