
Y Bibl Sanctaidd
Daeth hen Feibl nain Llanllyfni (1875-1959) i’m meddiant o Ganada bell yn ddiweddar. Mae o’n drwm iawn, dan y teitl ’Bibl Sanctaidd’ gyda chlawr caled efo styds ac yn cynnwys yr Hen Destament yn unig gydag esboniad a ‘nodiadau achlysurol’ ar bob pennod. Wn i ddim be ddigwyddodd i’r Testament Newydd sef Llyfr 2! Cafodd ei argraffu yn Y Bala gan Robert Saunderson yn 1833.
John Humphreys (1767-1829) gweinidog gyda’r Methodistiaid a llenor oedd ‘cynlluniwr cyntaf y gwaith hwn.’ Ganed ym Mhant-y-delw, Bodfari ond symudodd ei deulu’n fuan i Benmynydd, Tremeirchion. O 1798 hyd 1802 bu yng Nghaer yn arolygu’r argraffu Cymraeg yno dros Thomas Jones a Thomas Charles. Aeth wedyn i fyw i Gil-deugoed, Tremeirchion ac yna, am y rhan fwyaf o’i oes, i Groeswian, Caerwys ac fel John Humphreys, Caerwys, yr adnabyddir ef. Tua diwedd ei oes symudodd i Gil-llwyn, Bodfari, ac yno y bu farw yn 1829 ac fe’i claddwyd yng Nghaerwys a hynny cyn argraffiad Y Bibl Sanctaidd sef Beibl fy nain yn 1833. Tybed oes un o ddarllenwyr Y Bigwn yn byw yn un o’r ffermydd hyn heddiw neu efo cysylltiad? Nid oedd yn bregethwr poblogaidd ond ysgrifennai a chyhoeddai’n ddiwyd. Cyfieithodd gryn lawer ac yr oedd yn rhannol gyfrifol am y cofiant cyntaf (1820) i Thomas Jones, Dinbych.

Y Beibl Teuluaidd
Erbyn y 1830au roedd nifer o Feiblau gyda ‘nodiadau achlysurol’ i esbonio cynnwys y testun ar gael yn Gymraeg. Yn 1813 cyhoeddodd John Humphreys Feibl â nodiadau ar ymyl y ddalen, ac mae’n sicr fod tipyn o’r gwaith hwnnw yn argraffiad 1833 sef Beibl fy Nain.
Ar ddechrau’r 19g. roedd yna angen mawr yng Nghymru am argraffiadau rhad o’r Beibl. Wrth i’r ganrif fynd yn ei blaen fe welwch Feiblau Cymraeg o bob maint – Testamentau bach twt a chewri fel y Beibl hwn. Cymdeithas y Beibl oedd i ddiolch am hyn – trwy eu gwaith fe lwyddwyd i gael testun y Beibl ‘without note or comment’ yn nwylo’r werin. Ond mae’n amlwg fod galw am argraffiadau oedd yn helpu pobl i ddeall y testun yn well.
Dyma ofyn i Andras Iago – ‘Sut oedd pobl yn talu am Feiblau a llyfrau diwinyddol? Pwy oedd yn eu gwerthu?’
Meddai – ‘Rhaid cofio mai Beiblau a llyfrau diwinyddol oedd y mwyafrif o bethau oedd yn cael eu cyhoeddi yn y cyfnod hwn yn y Gymraeg (mae hynny’n dal yn wir i mewn i’r 20fed. ganrif). Dyna oedd canlyniad ysgolion Gruffydd Jones a’r Diwygiad Methodistaidd. Oherwydd hyn roedd Cymru’n wlad efo lefel anarferol o uchel o lythrennedd, ac roedd y bobl efo dyhead i ddarllen a deall y Beibl.

Y Flaen Dudalen
Roedd yna hefyd gynlluniau prynu llyfrau – yn aml roedd pethau yn cael eu gwerthu mewn ‘rhannau’ trwy danysgrifiad ac yn cael eu rhwymo pan fyddai pobl yn gallu fforddio hynny. Weithiau fe ddowch ar draws gopïau o lyfrau heb eu rhwymo yn y papur lliw fyddai’r wasg yn ei roi fel ‘clawr dros dro.’ ond wrth i amser fynd heibio, roedd y gweisg eu hunain yn cymryd mwy o gyfrifoldeb dros y broses o'r dechrau i'w diwedd.”
Yn ôl Andras eto, ”Roedd tipyn o bawb yn rhan o'r fenter o werthu llyfrau yn y 19g. - pobl yn gweithio ar ran y wasg, siopau llyfrau lleol, gweinidogion ac offeiriaid. Roedd gan argraffwyr rwydweithiau o gefnogwyr ar lawr gwlad oedd yn gweithredu ar eu rhan. Yn aml roedd llyfrau yn cael eu cyhoeddi gan enwad penodol i ddadlau neu amddiffyn ryw safbwynt, felly roedd y gwerthu'n digwydd trwy rwydweithiau'r enwadau.”
Ar nodyn personol, ceir manylion am briodas fy nain ar dudalen lân yng nghefn y Beibl dan y teitl ‘Marriage Births Deaths.’Priododd fy nain, Mary Williams (20 oed) gyda Thomas Henry Williams (23 oed) yng Nghapel Moriah, Caernarfon yn 1895 gyda’r Parch Gwynedd Roberts, Conwy yn gwasanaethu. Yna rhestrir enwau eu naw plentyn – bu farw pump yn fabanod (Robert, James, Tommy, Emlyn a Robert arall) a bu farw John Henry yn 27 oed yn 1924. Bu fyw Eluned, Ceinwen a nhad, Edgar, i oed teg. Mae’r tri wedi ein gadael bellach – bu farw fy nhad yn 1994.
Dyna’r cwbl sydd ar y dudalen ym Meibl y Teulu, Beibl Nain Llanllyfni – fe fydd rhaid imi ychwanegu ati. Mae’r Beibl yn golygu llawer imi!
Braf fuasai cael ymateb gan ddarllenwyr Y Bigwn ynglŷn â Beiblau Teulu tebyg sy’n perthyn i’ch teuluoedd chi.
Diolch i Andras Iago am ei ddiddordeb a’i help.
Erfyl Williams
