Y Bigwn

Wythnos 25 neu Wythnos 1 -Yr Ail Don – nos Wener

Ydyn, mae digwyddiadau yr wythnos hon wedi’i gwneud imi deimlo fel ein bod ni’n dechrau ar yr ail don o Gofid -19 yma yng Ngwlad y Menyg Gwynion. Caerffili ydy’r man cyntaf i fynd dan gyfyngiadau newydd yng   Nghymru, ac y mae yna sôn y gallai Rhondda Cynon Taf a Merthyr fynd i’r un cyfeiriad.

Oes gan rywun gydymdeimlad â thrigolion yr ardaloedd hyn?

 Oes, gyda’r mwyafrif helaeth a fu’n dilyn y canllawiau yn ddeddfol. Y lleiafrif bychan anghyfrifol a dorrodd y rheolau a’r canllawiau ydy’r rhai y mae rhywun yn colli’i limpyn gyda nhw.                                                                                                                                                                 

Da oedd clywed yr Aelod Seneddol Chris Bryant yn ddi-flewyn ar dafod yn  beirniadu rhai o’i etholwyr am beidio ag ynysu eu hunain ar ôl bod ar wyliau, mynychu tai ei gilydd ar gyfer partïon a rhoi gwybodaeth anghywir i’r awdurdodau.

Rŵan rydym ni oll yng Nghymru yn wynebu cyfyngiadau ynglŷn â faint o bobl y gallwn ni gymdeithasu efo nhw ar ein  haelwydydd. Chwech o oedolion – gan gynnwys plant dros 11 oed – ydy’r rheol. Y mae yna benderfyniad anodd yn wynebu sawl teulu.

Methu â deall ydw i pam na chyflwynwyd y rheol hon yn syth bin yn hytrach nag aros tan ar ôl y penwythnos. Mae’n siŵr y bydd yna bobl yn manteisio ar y penwythnos gan gynnal partïon cyn y cyfyngiadau.                                                                           

Yn wir, dydw i ddim yn deall yn iawn  pam yn enw popeth y cawsom ni Wyliau Banc eleni na pham y gwnaed môr a mynydd o annog pobl i ddathlu diwedd Yr Ail Ryfel Byd 75 mlynedd yn ôl.

Roedd y rhain yn gyfleon gwych i bobl gymysgu â’i gilydd gan dorri pob rheol ynglŷn ag ymbellhau yn gymdeithasol.  Ond, dyna fo, mae codi ysbryd pobl yn cael ei ystyried yn holl bwysig gan rai gwleidyddion.

Wythnos 26- nos Wener                                                                         

Rhondda Cynon Taf ydy’r ail sir yng Nghymru i’w rhoi dan waharddiadau, ac y mae eraill yn agos iawn at ddod o dan warchae.                                                             

Yn achos Rhondda Cynon Taf, neu RCT fel y gelwir yr awdurdod gan rai pobl, un o’r rhesymau am ledaeniad y feirws yn yr ardal oedd taith fws yn ddiweddar  i weld y rasus ceffylau yn Doncaster.                                                                           

Gwadodd y cae rasio i unrhyw un o Dde Cymru fynychu’r digwyddiad, ac  roedd un wraig o Abercynon yn amddiffyn y bois ar y bwletinau newyddion.  Do, fe aethon nhw i Doncaster, na wnaethon nhw ddim mynd i weld y rasus, do fe gawson nhw un diod, na wnaethon nhw ddim stopio mewn sawl tŷ tafarn ar y daith, a do fe wnaethon nhw osod un fet.                                                                                           

Ac yna’r frawddeg allweddol, “Wnaethon nhw ddim byd gwahanol i unrhyw flwyddyn arall.”                                                                                                           

Ond wraig annwyl, y mae hon yn flwyddyn hollol wahanol i unrhyw un arall, ac onid gwell fyddai iddyn nhw aros gartref eleni yn hytrach na gwadnu hi gannoedd o filltiroedd ar draws gwlad i gael un diod a gosod bet?                                 

A wel, gyda phobl yn ymddwyn mor hunanol pa obaith sydd yna i’r gweddill ohonom ? beth am y bobl hynny sydd yn gwadu bodolaeth Cofid-19? Yn eu plith y mae yna bobl gyda graddau tu ôl i’w henwau.                                                                                

Maen nhw’n cysylltu’r feirws â datblygiad y dechnoleg 5G gan ddweud mai twyll ydyw’r hyn a ddaw o enau gwyddonwyr.                                                                    

Yn amlwg dydyn nhw ddim wedi bod yn gwylio’r un bwletinau newyddion â’r gweddill ohonom a gweld dioddefaint y bobl druan a fu’n ysglyfaeth i’r haint.

Wythnos 27 – nos Wener 

Na, wna i ddim ymddiheuro i chi os mai chi oedd y dyn a gafodd bryd o dafod gen i yn y garej ar Ffordd Y Rhyl un bore yr wythnos hon.

Pam y dylwn i ymddiheuro i chi pan wnaethoch chi wawdio’r cyngor a roddais i chi am wisgo mwgwd tu mewn i’r siop “Ddyliwn i?” oedd eich cwestiwn dwl gyda rhyw grechwen ar eich wyneb. A chitha’ yn y dosbarth oedran a ystyrir yn fregus, fe ddisgwyliais yn well gennych. Oedd gennych chi esboniad dros yr amryfusedd? Oeddech chi wedi anghofio’r mwgwd neu oeddech chi’n un o’r bobl hynny nad oes raid i chi wisgo un oherwydd cyflwr meddygol?

Na, yr unig beth wnaethoch chi oedd trin y cyfan fel jôc. Wel, does ond gobeithio byddwch chi a’ch teulu yn iach.                                                                                  

Fe ddylwn i fod yn y De heno yng nghartref Catrin, fy merch. Ond ar sail cyngor Mark Drakeford ddydd Mawrth i beidio â theithio os nad oedd ein siwrnai yn gwbl hanfodol, fe wnaethon ni aros gartref.                                                                           

Bellach- gyda Sir Abertawe a Llanelli bellach dan glo lleol – rydwi’n teimlo’n bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir er gwaethaf yr awydd cryf i fynd ar y daith cyn i’r drws gau yn glep yn ein hwynebau.

Wythnos 28 – nos

Ydan ni wedi cael cam  d’udwch? Ia, ni yn Sir Ddinbych. Dyma ni dan glo unwaith eto, ond dydy’n ffigurau dyddiol ni o ran nifer yr achosion ddim yn arbennig o uchel. A gawsom ni’n cosbi oherwydd bodolaeth siroedd o’n hamgylch ni sydd gyda rhifau uwch o dipyn, ac o ganlyniad fod yr awdurdodau yn teimlo gallwn ninnau lithro i’r un cyfeiriad?

Efallai wrth weithredu rŵan y cawn ein harbed rhag sefyllfa waeth o’r hanner. Roedd derbyn y clo cyntaf yn ddigon anodd. Bydd dygymod â’r ail yn waeth o’r hanner. O leiaf ym mis Mawrth roeddem ni’n wynebu’r gwanwyn a’r haf tra bod llymder a gerwinder y gaeaf o’n blaenau ni y tro hwn.
Does ond gobeithio y gwna pawb ymddwyn yn briodol a dilyn y canllawiau, ac y cawn ni godi’r gwaharddiadau mewn dim o dro. Os ydach chi’n syrffedu ar fod fel Sion a  Sian o bobtu’r tân, ystyriwch y bobl hynny sydd yn byw ar eu pennau gan weld neb yn feunyddiol o fore gwyn tan nos.

Wythnos 29 – nos Wener

O ddrwg i waeth. Newydd glywed y bydd y rhan helaeth o Fangor dan glo ar ȏl chwech o’r gloch nos yfory,  a hynny yn bennaf  oherwydd y nifer o fyfyrwyr sy’n dioddef o’r pla.

Rhyfedd fod pawb - heblaw‘r gwybodusion -yn gwybod y byddai cynnydd yn y niferoedd unwaith y byddai plant yn dychwelyd i ysgolion a phobl ifainc yn troi’u bryd at y bywyd academaidd.

Ydan ni wedi colli gafael ar bethau? Ydy’r clefyd wedi mynd allan o reolaeth? Ai cymryd ein siawns a gadael iddo redeg ei yrfa bellach ydy’r unig ddewis sydd gennym?

Na. Yn bendant na.

Ond rhaid inni beidio â meddwl y gallwn ni ddychwelyd i’r hyn mae pobl yn ei alw yn normalrwydd. Mae rhai pobl yn sôn am ailgydio yn hyn a’r llall. Agor theatrau a stadia ac ail-ymgynnull fel cymdeithasau. Ond rydan ni ymhell bell o fedru gwneud hynny ar hyn o bryd. Iechyd a lles pobl ddylai gymryd y lle blaenllaw yn ein rhestr o flaenoriaethau.

Wythnos 30 – nos Wener

Mae yna sôn y bydd Cymru gyfan o dan glo byr a llym  o fewn ychydig. Ar hyn o bryd rydan ni’n gweld yr ystadegau yn cynyddu yn frawychus o gyflym ar hyd a lled gwledydd Prydain.                                                                                                      

Sut wnaethom ni fynd o sefyllfa mor hyderus ychydig wythnosau yn ôl i sefyllfa mor frawychus?                                                                                                    

Diddorol ydy’ gweld yr hyn ddigwyddodd yn yr etholiad yn Seland Newydd wrth i’r Prif Weinidog gael ei hail-ethol gyda mwy o fwyafrif, a hithau wedi defnyddio mesurau llym o’r cychwyn cyntaf i ddileu cofid-19 yn llwyr o’i gwlad.                                                                                                                                                        

Yn ddoeth iawn fe wnaeth y Kiwis gadw at y rheolau ac yn awr maen nhw’n elwa ar hynny gan allu ymgynnull yn dorfeydd o filoedd mewn stadia i wylio’u  tîm rygbi cenedlaethol. O na fyddai gennym ni yr un rhyddid a normalrwydd â nhw a thrigolion gwledydd eraill yn Asia a De America.

Stan Lyall