Y Bigwn

Dewi yn yr Eidal

“Bywyd Jim, ond dim fel rydym yn ei adnabod.” Yn ôl y sôn, hon oedd y frawddeg enwog a ddywedodd Doctor Spock yn y rhaglen deledu “Star Trek”. Yn sicr, fel hyn rwyf yn teimlo rwan wrth eistedd yn nhy bwyta ‘Delfino’ yn Pero ger Milan yn sgwennu’r erthygl yma. Dyma’r tro cyntaf ers chwe mis i mi ddod i’r rhan yma o Ogledd Yr Eidal, ar ol i Covid-19 amharu cymaint ar fywyd. Am wahaniaeth! Yn y gorffennol, mater oedd hi o dderbyn yr unig fwrdd oedd yn rhydd. Heddiw mae bob un yn wag! Mae’r un peth yn wir am y stafelloedd gwely yng ngwesty’r Embassy ar draws y ffordd lle dwi’n cysgu heno. Prin neb o gwmpas, a hyd yn oed os oes yna enaid mentrus, mae’n amhosib gweld llawer mwy na dwy lygad uwchben y masg. Rwyf wedi hen arfer, wrth gwrs, gweld gwragedd wedi eu gwisgo fel hyn yn Doha, Cairo a Jakarta. Ond pwy fyddai’n dychmygu y byddaf i heddiw yn edrych yr un fath! “Bywyd Jim, ond dim fel rydym yn ei adnabod.”

Y flwyddyn ddiwethaf roeddwn yn teithio’r byd gyda fy ngwaith fel peiriannydd. Affrica, Asia, De America: roeddwn ar yr awyren bob mis bron yn hedfan am oriau i leihau y dŵr sy’n cael ei golli o’r rhwydweithiau. Heddiw rwyf yn gwneud y cyfan gyda ZOOM o’r swyddfa yn Perugia. “Bywyd Jim, ond dim fel rydym yn ei adnabod.”

Wrth lwc dwi’n dal yn cael gyrru fy Alfa Romeo. Ond am ba hyd? O fewn y pymtheg mlynedd nesaf fe fyddwn yn cael ein gorfodi, mwy na thebyg, i yrru ceir trydan. Uchelgais bwysig i geisio gwella’r amgylchedd, medde chi. Hwyrach wir! Roeddwn yn darllen y diwrnod o’r blaen fod Volvo (sy’n gwybod dipyn am y pethau yma) yn dweud fod angen teithio o leiaf 70,000 o filltiroedd mewn car trydan i adfer y llygredd ychwanegol sy’n deillio o’i gynhyrchu, o’i gymharu â’r car arferol. Clyfar iawn gan gofio y bydd angen newid y batri bob 100,000 o filltiroedd beth bynnag! “Bywyd Jim, ond dim fel rydym yn ei adnabod.”

 

Dewi Rogers o’r Eidal