Y Bigwn

Mae Kristin yn enedigol o Lydaw ac wedi byw yn Ninbych ers 1992

Mae hi’n rhugl mewn pedair iaith

Sonia ychydig am dy gefndir.

Cefais fy ngeni a’n magu yn Llydaw; dw i’n dod o bentre Plougerne (Plouguerneau yn Ffrangeg), sydd ar lan y môr, tua’r Gogledd Orllewin, rhwng Rosko (Roscoff) a Brest. Mae’n ardal hardd iawn a hynod o ddiddorol, yn ddiwylliannol ac yn hanesyddol gyda llawer o atyniadau trawiadol a golygfeydd godidog. (Gol. - Mae'r fideo yn dangos tipyn ar yr ardal o'r awyr)

Roedd y pentre yn Lydewig iawn pan o’ ni’n iau ond erbyn hyn does dim llawer yn siarad yr iaith.

Yno roeddwn i’n athrawes mewn Ysgol Diwan; sef ysgol Lydaweg i blant oedran cynradd ac yn mwynhau dysgu trwy gyfrwng y Lydaweg.

Roeddwn i hefyd yn frwdfrydig iawn dros yr iaith ac yn dysgu Llydaweg i oedolion mewn cyrsiau ieithyddol dros y gwyliau haf am flynyddoedd.

Wrth gwrs, mae’r lle yn andros o bwysig i mi ac yn agos iawn at fy nghalon.

Fideo o Ardal Enedigol Kristin yn dangos traeth Y Vougo, Ar C'horejou (Y goredau), An Aod Wen (Y Lan Wen)

Beth a dy ddenodd i Ddinbych?

Testun Arall Delwedd 1

Kristin a Dyfrig ger yr eglwys lle bu eu priodas

Cwrddais i â Dyfrig yn Llydaw a wedyn penderfynon ni ddod i Ddinbych i fyw a dechrau magu teulu ein hunain.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf ydy cerdded i’r ysgol fabanod yn dair oed a gweld anifeiliaid siglo anferth fel elyrch a chwiaid  ar yr iard a rheini yn codi braw arna i braidd.

Sonia ychydig am dy waith.

Ar hyn o bryd, dw i’n dysgu Cymraeg i oedolion ac yn mwynhau y gwaith yn fawr iawn. Be sy’n braf ydy bod rhai eisiau dal ati a chymryd rhan yn y gymuned ac yn llwyddo.

Be sydd wedi achosi’r embaras mwyaf i chdi?

Mewn traethawd yn lle sgwennu teitl y llyfr “ The ballad of the sad cafe” mi wnes i sgwennu heb sylweddoli  “ The salad of the bad cafe” a wedyn cael fy enwi o flaen y dosbarth cyfan! Well i mi gadw marc terfynol y traethawd yn gyfrinachol!

 

Testun Arall Delwedd 1

Kristin ar lan y môr yn Llydaw

Rwyt yn rhugl mewn pedair iaith. Sut fyddi di’n defnyddio’r ieithoedd hyn bob dydd?

Dw i’n siarad Llydaweg gyda’r genod a Chymraeg yw’r iaith naturiol rhwng Dyfrig a finnau ond yn siarad Ffrangeg yn ddyddiol ar y ffôn gyda theulu a ffrindiau, a weithiau gyda Dyfrig a’r genod os nad ydynt yn gwrando gan fod y Ffrangeg yn iaith sy’n ennyn sylw!  Mae’n rhaid hefyd cyfathrebu yn Saesneg o ddydd i ddydd.

Beth sy’n mynd o dan dy groen?

Rhieni Cymraeg sy’ ddim yn pasio’r iaith ymlaen i’w plant.

Sut fyddi di’n treulio dy oriau hamdden?

Dw i wrth fy modd yn cerdded, darllen ac yn coginio rhywbeth gwahanol ambell waith.

Pa gyngor fuaset yn ei roi i Brif Weinidog?

I Brif Weinidog Prydain : “Dos, a gwynt teg ar dy ôl di!”

I Brif Weinidog Cymru : “Nid da lle gellir gwell!”

Pa fath o raglenni teledu sy’n rhoi’r pleser mwyaf i chdi?

Tipyn bach o bopeth a dweud y gwir. Mae’n dibynnu ar y rhaglenni wrth gwrs ond ar y cyfan rhaglenni Cymraeg a rhaglenni “thrillers”.

Oes llyfr wrth erchwyn y gwely ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd dw i wrthi’n darllen “Cylchoedd” gan Siân Northey ac “Un appartement  à Paris” gan Guillaume Musso.

Sut mae’r cyfnod clo wedi effeithio arnat?  (be wyt ti di bod yn ei neud, efallai o’r newydd?)

A dweud y gwir, ges i gyfle i bobi cacennau o bob math wrth gymryd rhan mewn cystadleuaeth pobi wythnosol gyda ffrindiau a ges i hwyl arni hefyd, gyda phawb yn y tŷ yn cytuno eu bod yn flasus dros ben.  Ond roedd rhaid rhoi’r gore i bobi ar ôl torri asgwrn yn fy llaw yn ystod yr haf,  o ganlyniad i’r ddamwain a sefyllfa’r feirws doedd dim modd mynd i Lydaw eleni fel yr arfer.  Hen dro, felly!

Oes gen ti gynlluniau ar gyfer 2021?

Wel,  gobeithio cawn fynd i Lydaw i weld teulu a ffrindiau.  Mae 2020 wedi bod yn un chwithig a dwi’m yn cofio i mi beidio gallu dychwelyd i Lydaw o gwbl mewn blwyddyn gyfan.

Be ydi dy hoff air?

Fy hoff air yn Gymraeg yw hiraeth, mae’n disgrifio’r ymdeimlad o golli rhywun neu rhywle yn berffaith ac mae’r un gair i’w gael yn Llydaweg hefyd sef Hiraezh.