Y Bigwn

Dw i’n meddwl yn ôl i ddechrau Mis Mawrth pan oedd Estyn yn ymweld â ni. Mae’n teimlo mor bell yn ôl erbyn hyn.Yna fe ddaeth y coronafeirws brawychus i drawsnewid bywydau pob un ohonom.Beth oedd yn mynd i ddigwydd i’r dosbarthiadau? Roedd gen i dri dosbarth traddodiadol yn y Ganolfan Iaith - Mynediad , Sylfaen ac Uwch ac un dosbarth Dad-Awgrymeg yng Nghanolfan y Dderwen yn y Rhyl. Dad-Awgrymeg ydy dysgu trwy stori ac y mae llawer o adnoddau amrywiol ar gael i helpu’r dysgwyr.
Yna fe gawsom wybod ein bod yn mynd i gynnal dosbarthiadau ar lein. Mi es i banic llwyr. Dwi erioed wedi bod yn gyffyrddus efo cyfrifiaduron. Dw i erioed wedi cael hyfforddiant, dim ond sut i ddefnyddio ebost a.y.y.b.
Yna fe drawsnewidiodd fy myd efo geirfa hollol ddieithr fel Zoom, Breakout Rooms, Share screen. Wedi dipyn o drafferthion erbyn hyn mae pethau wedi dod yn llawer haws a minnau’n teimlo fy mod wedi dysgu cymaint. Dw i newydd brynu argraffydd/ sganer ac mae’n ddefnyddiol iawn i anfon erthyglau a gwaith at fy nosbarthiadau. Felly dach chi byth rhy hen i ddysgu sgiliau newydd.Mae llawer o bobl wedi troi at ddysgu Cymraeg yn ystod y clo mawr.Beth sy’n fanteisiol o ddysgu ar y we ydy mae pobl o bob rhan o’r byd yn gallu dysgu.Yn yr ysgol Haf mi ges i rai o Ffrainc a Lloegr yn ymuno â’r gwersi.

Mae’r wythnos ddiwethaf wedi bod yn wythnos i ddysgwyr ar Radio Cymru. Felly dw i wedi bod yn annog y dosbarthiadau i wrando ar Radio Cymru. Dw i wrth fy modd yn gwrando ar Radio Cymru. Fy hoff raglenni ydy Dei Tomos, Beti a’i phobl a Tros ginio.
Dw i ddim yn gwybod pryd y byddwn yn gallu dychwelyd i’r dosbarth ond ddim yn fuan dw i ddim yn meddwl.

Nerys Ann,Tiwtor efo Popeth Cymraeg


Dysgu Cymraeg yn ystod y Clo Mawr

Ddiwedd mis Mawrth, ddôth y neges drwodd – y clo mawr am wythnosau, mi fydd rhai siopau ac ysgolion yn cau, mi fydd rhaid I bobl weithio o adre, cyfyngiadau, pellter cymdeithasol, ac ati – ond ar wahân i hynny, beth am ein dosbarth Cymraeg wythnosol? A beth am ein Tiwtor Nerys-Ann: roedd pawb yn y dosbarth yn gwybod nad y cyfrifiadur oedd ffrind gorau Nerys-Ann! Dim gobaith caneri! Diolch byth cyn pen dim, ym Mis Ebrill dechreuodd gwersi ar “Zoom”. Fesul dipyn, roedd pawb yn arbenigwyr, yn enwedig ein Tiwtor. Ar ôl chwe mis, does neb yn y dosbarth rhithwir yn diflannu heb rheswm, dan ni’n gallu clywed ein gilydd, ac mae’r “rhannu sgrin” yn angyhoel. Nid ar chwarae bach! Mewn gwririonedd, dan ni’n ddiolchgar iawn i barhau efo dosbarthiadau ar “Zoom”, tan fydd hi’n ddiogel i ddychwelyd i Ganolfan Iaith Dinbych. Diolch yn fawr!

Gill Yates o Ddosbarth Nerys Ann

 

Dysgu Cymraeg ar Zoom

Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg efo Popeth Cymraeg ers blynyddoedd yng Nghanolfan Iaith Clwyd. Wrth gwrs oherwydd y Coronafeirws dydy hyn ddim wedi bod yn bosibl eleni. Dw i’n colli gweld pawb arall yn y dosbarth a cael gwersi yn y ganolfan.Mae’r dosbarthiadau wedi symud i’r we yn ddefnyddio Zoom. Ar y dechrau doedd Zoom ddim yn gweithio ar fy nghyfrifiadur i ond mi ges i help i gario ymlaen efo dysgu trwy ebost gan Nerys Ann.
Rwan dwi wedi datrys y broblem efo Zoom. Mae’r gwersi ar Zoom yn wahanol wrth gwrs ond mae’n gweithio’n dda .Dw i’n ddiolchgar i staff y ganolfan am wneud yn siwr ein bod yn gallu parhau â’r dysgu.Trwy ddefnyddio Zoom dan ni’n gallu gwneud gwaith grŵp mewn Breakout Rooms ac mae’r tiwtor yn gallu rhannu ei sgrin efo pawb yn y dosbarth i rannu sleidiau pwynt pŵer ac ati. Mae’n debyg i fwrdd gwyn yn yr ystafell ddosbarth yn y ganolfan.Mae wedi bod yn braf iawn i weld pawb arall eto a siarad â nhw.

James King o Ddosbarth Nerys Ann

 

Dysgu Cymraeg ar Zoom

Ar hyn o bryd nid yw ein grŵp o tu allan i Gymru yn gallu cyfarfod yn Popeth Cymraeg oherwydd cyfyngiadau firws Corona.
Mae'n siomedig iawn i mi beidio â gallu teithio i fyny i Ddinbych o Stoke ar gyfer fy nosbarth.
Dwi wir yn colli cyfarfod â phawb ac ar y dechrau, roeddwn i'n gweld dosbarthiadau ar Zoom ychydig yn frawychus ond mae'n ffordd dda o gadw mewn cysylltiad a dilyn ein cwrs Cymraeg.
Mae ein tiwtor yn wirioneddol greadigol ac yn gwneud dosbarthiadau'n ddiddorol, yn heriol gyda llawer o waith caled. Ond mae bob amser yn hwyl dda hefyd.

Gwyn Hill o Ddosbarth Nerys Ann

 

Dysgu Cymraeg ar Zoom

Dw i wedi defnyddio Zoom ers mis Mawrth i ddysgu Cymraeg. Mae Zoom yn dda iawn. Mi all y dysgwr siarad, gwrando a darllen ar Zoom run fath â stafell ddosbarth. Mae rhywbeth at ddant pawb ar Zoom.

Sarah Parry

 

Dawns y Dail

Gwaith Celf Dawns y Dail

Fel dysgu wyneb yn wyneb, mae dysgu Cymraeg ar lein yn medru bod yn brofiad cyfoethog iawn. Pan o'n i'n cymryd rhan mewn cwrs un diwrnod yn mis Hydref efo Popeth Cymraeg roedd y dosbarth yn darllen cerdd “Dawns y Dail” gan T Llew Jones. Yn ogystal a gweithio i ddeall geirfa newydd a gramadeg mae'r gerdd yn dysgu mwy am brydferthwch yr iaith Gymraeg.

Yn ystod yr wythnos ddilynol roedd y gerdd dal yn chwyrlio o gwmpas fy mhen. Fedrwn i ddim anghofio’r gerdd a phan es i i weithdy celf ar zoom i ddysgu am beintio dail roedd o’n naturiol i mi i gymryd mantais o'r wers a defnyddio’r gerdd yn y gweithdy. Roedd y gerdd gan T Llew Jones wedi ysbrydoli fy ngwaith llaw ar un ddeilen - wedyn yn blodeudorch yr Hydref.

 

Torch Dawns y Dail

 

Dw i'n meddwl byddai cystadleuaeth yn Eisteddfod y Dysgwyr o’r enw “Gwersi sy wedi fy ysbrydoli“ yn syniad da!

 

Ruth Lee