Y Bigwn

Cawsom ymateb reit dda i hanes y cylchgrawn ‘Yr Awel’ sef cylchgrawn Ysgol Ramadeg Dinbych o’r 60au. a’r ‘Bych’ o’r 50au.(gweler Y Bigwn, rhifyn Mawrth 2020).

Cafwyd un ymateb diddorol ac annisgwyl gan Mrs Freda Pierce

o Gartref Glyn Nest, Castell Newydd Emlyn, Ceredigion. Roedd Mrs. Pierce yn byw yn Ninbych yn y 40au a’r 50au ac yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Dinbych. Mae Freda’n derbyn Y Bigwn bob mis drwy’r post

ac yn adnabod rhai o’r darllenwyr. Mae’n meddwl y byd o Ddinbych.

‘Er yn byw yn Ninbych, Saesneg yw fy iaith gyntaf ac wedi dysgu’r Gymraeg trwy’r glust ac wedi priodi Cymro!’ medd Freda yn ei llythyr cyntaf.

Dyma ail lythyr Freda yn llawn:-

Testun Arall Delwedd 1

Mrs Freda Pierce

Wel, dyma fi mewn Cartref Gofal yng Ngorllewin Cymru o dan glo fel pawb arall mewn cartrefi gofal ac yn dechrau gweld yr amser yn hir a diddiwedd. Rwyf felly yn meddwl am rai eraill sy’n yr un sefyllfa â mi. Sut mae hi tua Dinbych a’r cartrefi henoed, tybed? Rwy’n gofyn hynny am fy mod wedi  byw yn Ninbych am flynyddoedd yn y 40au a’r 50au ar ôl symud o Ruthun – roeddwn yn ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Dinbych o 1944 – 1951. Oes na rywun yn Ninbych neu mewn cartref gofal yn Ninbych a oedd yn yr ysgol tua’r un pryd?

A beth am y Cartref Gofal dwi ynddo ers chwe blynedd yng Nghastell Newydd Emlyn sef Glyn Nest? Tŷ preifat oedd Glyn Nest yn wreiddiol a adeiladwyd o 1919 – 1920 ond yn Gartref i’r Bedyddwyr ar ôl hynny (Gweinidogion Y Bedyddwyr!) ac ers blynyddoedd yn Gartref cyffredinol ond yn dal dan reolaeth Bedyddwyr Cymru.

Mae 28 o ddeiliaid yma, 90% yn Gymry (o ogledd Sir Benfro) a rhan fwya o’r staff yn Gymry. Mae’r oedran o 70 - 100 gyda dementia ac amrywiaeth o anabledd corfforol. Rwy’n siwr bod Cartrefi Gofal yn Ninbych yr un peth gyda phawb wedi cael bywydau amrywiol fel ffermio, wedi bod yn athrawon, yn gweithio mewn banc, yn berchen busnes ac yn rheolwr siop ac ati. Mae’n ddiddorol cael sgwrs hefo nhw am eu bywydau cyn dod i Glyn Nest. Gyda llaw, does ’na neb o Ogledd Cymru yma na fawr o neb wedi bod i Sir Ddinbych na Sir Fflint. Dw i’n trio eu hargyhoeddi am brydferthwch Gogledd Ddwyrain Cymru!

Rwy’n siwr fod amserlen bob dydd yng Nglyn Nest ‘run peth â Chartrefi Henoed Dinbych – brecwast tua 8 a.m., cinio am 12.30, te am 2.30 p.m., swper am 5.15 p.m. a phaned tua 9.15 p.m. os oes eisiau. Ydach chi hefo rhywbeth tebyg?

Er bod y Cartref dan glo ar hyn o bryd mae ‘na ddigon o le tu allan i ni gael mynd i  eistedd – maes parcio a gardd fach. Oes rhywbeth fel ‘na hefo chi?

Dw i’n ddigon ffodus i allu mynd nôl a blaen gyda walker ac mae’n dda cael awyr iach.

2.30 p.m. – amser te. Felly dymuniadau gorau i chi i gyd ac fel mae Tudur Dylan Jones wedi sgwennu,’Bydd enfys dros y cyfan.’

Freda Pierce

Diolch i Freda am ei llythyr a ddaeth yn yr haf.

Mae Freda newydd dderbyn  ôl-rifynnau diweddaraf o’r Bigwn ac mae wrth ei bodd mewn cyfnod anodd iddi dan gyfyngiadau’r coronafeirws yn y Cartref yng Nghastell Newydd Emlyn.

Oes yna ddarllenwyr sy’n cofio Freda? Be am gysylltu!!

Golygydd