Y Bigwn

Elena ydw i, dwi’n 22 oed ac wedi bod yn gweithio ar opera sebon ‘Rownd a Rownd’ am y flwyddyn ddiwethaf fel rhedwr cynhyrchiad. Mae’r swydd wedi bod yn amrywiol imi o ran sgiliau a phrofiadau. Mae rôl rhedwr i’w gael ym mhob rhan o’r cynhyrchiad. Pan yn dechrau gyrfa ym myd teledu mae’n debygol iawn y bydd eich galwad cyntaf fel rhedwr, fel eich bod yn cael sylfaen gadarn o sut mae pethau’n gweithio ar y set. Mae swydd rhedwr yn fynedfa i amrywiaeth o adrannau, lle gallwch brofi meysydd gwahanol cyn symud i fyny’r ysgol. Mae fy swydd wedi rhoi trosolwg unigryw imi ac mi fyddaf yn anhebygol o gael profiad o’r fath mewn swyddi uwch.  Mae’n bwysig cael y meddylfryd nad oes unrhyw dasg yn rhy fach.

Mae pob diwrnod yn wahanol gan ein bod yn gweithio mewn lleoliadau ac ar straeon gwahanol, yn amal iawn yn erbyn yr elfennau. Mae fy rôl yn canolbwyntio ar edrych ar ôl cast a chriw o ddydd i ddydd, yn ogystal â chast iau a lot o redeg ar ôl bobl (fel yn nheitl y swydd).

Mae diwrnod arferol imi yn dechrau pan adawaf y tŷ am 6.30 y.b., a’r rhan fwyaf o ddiwrnodau ni fyddaf yn ôl adref tan 7y.h. Mae’r diwrnodau yn hir, yn enwedig efo saethu nos weithiau a’r gwaith yn darparu digon o sialensiau yn ystod y ffilmio. Er hyn, mae’n swydd hynod o wobrwyol pan ddaw’r gwaith at ei gilydd. Mewn diwrnod arferol dwi’n sicrhau bod actorion a’r criw wedi cyrraedd a gweithio fel rhan o’r tîm cynhyrchu i gynnal trefn y dydd. Mae gan bawb alwad amser ar y set. Dwi, aml i waith, yn gorfod sefyll mewn fel ecstra neu helpu’r adran gelf ac yn cael digon o sbort efo’r cast iau sy’n actio ar y rhaglen. Wedi cyrraedd yr adeilad, mae’r actorion yn mynd i wisgoedd a cholur ac wedyn blocio’r olygfa efo’r cyfarwyddwr cyn mynd ymlaen i ymarfer.

Yn dilyn pandemig cofid-19, ym mis Mawrth roedd rhaid i ffilmio ddod i ben am gyfnod. Rydan ni’n nôl fel dau griw ers Gorffennaf, ac wedi cymryd y rhagofalon cywir ar y set i fwrw ymlaen efo’n gwaith. Nawr mae diwrnod gwaith yn wahanol i’r arfer. Wrth gyrraedd rŵan, rydan ni’n cael gwirio tymheredd, mae dwy fedr i’w gadw trwy gydol y dydd efo warden cofid ar y set. Mae unrhyw straeon rhamantus yn cael eu gwneud â sgrîn rhwng actorion sydd yn cael ei golygu at ei gilydd nes ymlaen. Trwy’r amser mae gennym ni ddau dîm yn ffilmio ond nawr nid yw’r criwiau yn cael cydweithio er mwyn osgoi croeshalogi. Mae’r criw technegol yn ogystal â cholur, gwisgoedd a phrops yn gweithio hyd yn oed yn galetach efo’r mesuriadau sydd mewn lle. Mae angen i bob dim gael ei ddiheintio wrth inni weld bocs diheintio wedi’i gludo inni dros y cyfnod. Un peth nad yw pobol yn ystyried yw’r holl setiau sydd yn rhan o ‘Rownd a Rownd’. Mae hyn yn cynnwys tai'r cymeriadau a’r ysbyty sydd wedi gorfod cael eu hailgreu mewn stiwdio, gan nad ydynt yn gallu defnyddio'r setiau arferol oherwydd risg cofid.

Ers yn ifanc, credais y dylwn wybod yn sicr pa yrfa yr hoffwn ei ddilyn, yn enwedig ar ôl TGAU a Lefel A. Mi es lawr trywydd ychydig yn wahanol. Yn dilyn fy nghyfnod yn Ysgol Glan Clwyd roeddwn wedi cofrestru ar gwrs Llenyddiaeth Saesneg ym mhrifysgol Bangor, ond ar ôl rhyw bythefnos penderfynais nad oedd y cwrs i fi. Ar ôl panic bach cefais restr o gyrsiau i ddewis yn ei le efo Astudiaethau Cyfryngau yn eu mysg. Rwyf mor falch y gwnes y penderfyniad o astudio’r cyfryngau.  Rwyf wedi gweithio efo camera, radio, gwaith golygu, a sain. Roedd fy mhrif ddarlithydd, Geraint Ellis, yn wych wrth fy ngwthio at waith camera. Ynghlwm efo ‘Rownd a Rownd’ rwyf wedi cael bod yn rhan o brosiectau a ffilmiau byr allanol yn y lleoliadau mwyaf difyr. Roeddwn  ar draeth Trecastell heddiw a ffilmio ar gychod ‘rib ride’. Mae’r llwybr a ddewisais wedi dangos imi ei bod yn bwysig weithiau cymryd siawns a dilyn trywydd gwahanol.

Mae’r gwaith hyd yn hyn wedi bod yn wych o ran gweithio efo cast a chriw anhygoel. Dwi wedi derbyn cytundeb am gyfres arall efo ‘Rownd a Rownd’ ac yn edrych mlaen i gael rhoi fy llaw at waith camera a golygu yn y dyfodol.

Rhedwr Rownd a Rownd 1Rhedwr Rownd a Rownd 2Rhedwr Rownd a Rownd 3
Rhedwr Rownd a Rownd 4Rhedwr Rownd a Rownd 5Rhedwr Rownd a Rownd 6

Elena Brown