Mi sgwennais erthygl i'r 'Bigwn' rhyw 5 mlynedd yn ôl, ac ar yr adeg yna roeddwn wedi bod yn byw yma yn Fietnam am ryw 9 mis yn unig. Pan sgwennais yr erthygl, mi ddywedais fy mod yn bwriadu byw yn Fietnam am tua blwyddyn. Ond rwan, wedi bron i 6 mlynedd yma, mi rydw i’n gweld y wlad a’r ddinas boblog yma – Ho Chi Minh City neu Saigon, fel ail gartref.
Ers ysgrifennu yr erthygl gyntaf honno, mae llawer wedi newid yn fy mywyd i mi a hefyd yn y wlad yn gyffredinol. O siarad yn bersonol, dwi wedi priodi, hefo plentyn cyntaf ar y ffordd ac mewn swydd newydd. O ran y wlad, mae tyfiant a datblygiad yn parhau, ac wrth gwrs rydym wedi cydfyw hefo’r coronafeirws dros y misoedd diwethaf.

Gareth efo rhai o'i ddisgyblion
O ran gwaith, pan gychwynais i weithio yma, roeddwn yn gweithio fel athro Saesneg mewn ysgolion cynradd gwladol gyda hyd at 50 o blant mewn dosbarth. Roedd hynny yn brofiad newydd ond diddorol ac yn ffordd dda o ddod i adnabod y wlad a’i phobl. Erbyn hyn, dwi'n dysgu mewn ysgol gynradd breifat ddwyieithog, y plant yn cael 50% o'u haddysg yn Saesneg a 50% yn yr iaith leol. Mae'r ysgol gyda chyfleusterau anhygoel ac mae'r rhieni cefnog yn talu ffioedd uchel i anfon eu plant i astudio yma.
Mae'r diwrnod ysgol dipyn yn wahanol i adre - cychwyn yn gynnar am 7.30, egwyl o 2 awr a hanner am ginio a seibiant ganol dydd ac wedyn mwy o wersi tan 4.30. Mae’r plant yn dod o Fietnam yn bennaf ond hefyd nifer o wledydd eraill yn Asia ac o amgylch y byd.
Ar fy meic modur y bydda i’n trafaelio i‘r ysgol ac o gwmpas y ddinas. Ar y cychwyn roeddwn yn synnu gweld yr holl draffig yma ac roeddwn ofn dreifio o gwmpas. Ond wedi oedi am dros flwyddyn, mi brynais feic a rwan dwi’n gweld y beic modur fel rhan naturiol o fy mywyd. Wrth sefyll a gwylio’r holl draffig mae’n ymddangos yn hynod o brysur, ond er hyn, mae trefn a rheolau yn dod yn amlwg wrth imi deithio yng nghanol y traffic ac erbyn hyn rydw i’n reit gyfforddus.

Priodas Gareth a Hop
Yn fy mywyd personol, rydw i rwan wedi priodi ac efo plentyn ar y ffordd mis nesa (Tachwedd). Y rheswm pennaf pam y symudais i Fietnam yn y lle cyntaf oedd fy ngwraig Hope. Mi wnaethom ni gyfarfod pan oeddwn yn treulio cyfnod yn teithio yma yn Fietnam. Ychydig feddyliais i y buasai digwydd cyfarfod ein gilydd ar fws wedi newid cyfeiriad ein bywydau mewn ffordd mor wahanol!
Roedd ein priodas yn Hanoi yn wahanol i be fuasai y rhan fwyaf wedi arfer hefo fo adref. Yn nhŷ’r briodferch mae seremoni bwysig a phreifat – mewn ffordd mae priodas yn Fietnam bron fel priodas rhwng dau deulu,gyda pen teulu’r teuluoedd yn cytuno i uno’r ddau at ei gilydd. Roedd fy nheulu wedi mwynhau’r profiad er ei fod mor wahanol.

Ein Seremoni Briodas
Yn dilyn y briodas yn Hanoi, cawsom seremoni fach adre, yn yr Oriel House, Llanelwy. Roedd yn bleser cael cyfle i rannu’r diwrnod efo’n teulu a’n ffrindiau, yn ogystal ag ychydig o deulu Hop oedd wedi trafaelio i Gymru.
Rydyn ni rwan yn edrych ymlaen i groesawu ein plentyn cyntaf. Os bydd popeth fel y disgwyl mi fydd o’n cyrraedd ar ddechrau mis Tachwedd. Mae’r gofal yn yr ysbyty wedi bod yn dda iawn hyd yma ac rydw i hyd yn oed wedi ymuno â’r dosbarthiadau cyn geni (prenatal) er eu bod yn cael eu cynnal yn y iaith Vietnamese. Dwi wedi bod yn dysgu’r iaith ers symud yma, ac rwan yn gallu cyfathrebu yn weddol hyderus o ddydd i ddydd.
Un peth yr ydym yn ddiolchgar iawn ohono yma ydi ymateb y Llywodraeth a’r wlad tuag at Covid-19. Pan glywais y newyddion am feirws newydd roeddwn i a llawer eraill yn disgwyl y gwaetha gan fod Fietnam yn rhannu ffin efo Tsieina. Ond, yn ffodus, mae gan Fietnam brofiad o ddelio hefo’r math yma o beth gan mai Fietnam oedd y wlad gyntaf i gael gwared o SARS yn 2003 ac roedd yr ymateb y tro yma yr un mor effeithiol. Caewyd y ffin a gwrthod mynediad i bob ymwelydd tramor yn gynnar ym mis Mawrth. Hyd yn oed os oedden nhw yn frodorion yn dod nôl i’r wlad rhaid oedd iddyn nhw dreulio pythefnos mewn cwarantin sydd wedi ei drefnu gan y Llywodraeth. Rhaid cael tri phrawf negatif cyn cael mynd yn ôl at eu teuluoedd. Caewyd yr ysgolion yn syth a bûm yn addysgu ar lein am o gwmpas 4 mis. Does neb wedi bod yn cwyno llawer am wisgo masg nag am y cyfnod clo byr a gafwyd yma.
Gymaint oedd llwyddiant hyn, ni gofnodwyd yr un farwolaeth yn y wlad tan mis Awst. Heddiw, does dim achos newydd wedi bod ers dros 40 diwrnod. Heblaw am ddiffyg twristiaid mae bywyd yn debyg i normal yma mwy neu lai. Roedd yn syndod imi weld yr agwedd hamddenol oedd yn cael ei gymryd gan y Llywodraeth a llawer o bobl yn y D.U. ar gychwyn y pandemig. Dileu’r feirws oedd bwriad Fietnam ac maen nhw wedi llwyddo mwy neu lai ac mae economi’r wlad yn cael ei ragweld i barhau i dyfu’r flwyddyn hon.
Ar y funud, rydyn ni’n hapus fel teulu yma yn Fietnam, ond rydyn ni’n pendroni os mai yma neu yng Nghymru ydi’r lle gorau i ni yn yr hir-dymor. Mae ein swyddi a’n costau byw isel yn golygu ein bod ni’n gallu cael safon byw gymharol gyfforddus yma, ond wrth fagu plentyn, mae mwy i ystyried, wrth gwrs. Ychydig iawn o lefydd gwyrdd yn yr awyr agored sydd o fewn cyrraedd hawdd, ac mae cost addysg ddwyieithog yn ddrud. Felly, mae posibilrwydd y byddwn ni’n symud i Gymru rhywbryd yn y blynyddoedd i ddod.
Gareth Evans
O.N. Ar Hydref 26ain, ganwyd Owen Minh Tran Evans, mab i Gareth a Hope yn Fietnam.
Llongyfarchiadau i Gareth a Hope a’u teuluoedd.
Gol.
