Y Bigwn

Rebecca Bowcott, ei gwr ac un o'r meibion

Rebecca Bowcott, ei phriod ac un o’u meibion

Rebecca ar ôl gorffen y Marathon

Rebecca

Dyma luniau o Rebecca Bowcott, ysgrifenyddes Dementia Gyfeillgar Dinbych, ei phriod ac un o’u meibion ar Sul cyntaf Hydref pan lwyddodd Rebecca i redeg Marathon Llundain Rhithiol yn lleol a chodi dros £1,100 at Dementia Gyfeillgar Dinbych – arian fydd yn ein galluogi i wneud ambell beth unwaith y bydd cyfyngiadau Covid wedi mynd a’n bod yn gallu bod yn fwy gweithredol unwaith eto. Mawr ddiolch i Rebecca am y gefnogaeth yma – a sawl cefnogaeth arall i’r grŵp.

Dilwyn Jones, Cadeirydd Dementia Gyfeillgar Dinbych