Y Bigwn

Dyma ddigwyddodd ar y dyddiad yma

TACHWEDD

1 1948, agorwyd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan i’r cyhoedd

1 1982, S4C yn dechrau darlledu

2 1925, torrodd Argau Llyn Eigiau lle collodd 17 eu bywydau ym mhentref Dolgarrog

3 Diwrnod Gŵyl Seintiau Clydog a Gwenffrewi

5 1605, ceisiodd Guto Ffowc ladd brenin Lloegr a ffrwydro Palas San Steffan

8 1802, ganwyd y llenor, Gweinidog a’r newyddiadurwr William Rees (Gwilym Hiraethog) yn Chwibren Isaf, Llansannan

8 1965, ganwyd y canwr opera Bryn Terfel, Pantglas

9 1277, rhoddodd Llywelyn Ap Gruffudd ei sêl ar Gytundeb Aberconwy

9 1989, Cwymp Mur Berlin

10 1766, ganwyd y bardd a’r pamphledwr radicalaidd John Jones (Jac Glan Gors) yng Ngherrigydrudion

11 1294, cipiodd y Cymry Gastell Dinbych oddi wrth y Saeson, a’i ddal am 7 mis fel rhan o Ryfel Cymreig 1294 – 95

11 1918, Cadoediad rhwng y Cynghreiriaid a’r Almaen yn dod â’r Rhyfel Byd Cyntaf i ben

12 1799, claddwyd corff Abram Wood “Brenin y Sipsiwn” yn Eglwys Llangelynin, Gwynedd yn 100 oed

14 1889 ganwyd Jawaharial Nehru, Prif Wenidog cyntaf India annibynnol

14 Diwrnod Rhyngwladol Clefyd y Siwgwr a Dydd Gŵyl Sant Dyfrig

15 1897, ganwyd Aneurin Bevan yn Nhredegar, Blaenau Gwent

15 Gŵyl Mabsant Mechell (Môn)

16 1945, ffurfiwyd UNESCO i hyrwyddo dealltwriaeth rhwng y cenhedloedd

17 1869, agorwyd Camlas Suez yn swyddogol

17 1924, ganwyd y llenor Islwyn Ffowc Ellis yn Wrecsam

17 Diwrnod Rhyngwladol y Myfyrwyr

18 Diwrnod Annibyniaeth Latfia 1918 a Moroco 1956

19 1892, ganwyd yr undebwr Llafur o Gymro, Huw T. Edwards yn Rowen, Dyffryn Conwy

20 1951, sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri, un o’r tri Parc Cenedlaethol yng Nghymru

21 1956, nifer o Gymry yn gorymdeithio drwy strydoedd Lerpwl er mwyn atal boddi Capel Celyn

22 1900, dechreuodd Streic fawr Chwarel Y Penrhyn, Bethesda

22 1963, saethwyd yn farw John F. Kennedy, Arlywydd yr UDA

22 Gŵyl Mabsant Deiniolen (Llanddeiniolen, Arfon)

23 1266, Cysegrwyd Eglwys Gadeiriol Llandaf, Caerdydd

23 1965, bu farw y ‘gangster’ o dras Cymreig, Llywelyn Morris Humphreys (Murray the Hump)

24 1859, cyhoeddwyd “On The Origin Of Species” gan Charles Darwin

24 1904, bu farw Lewis Jones (g.Caernarfon 1836) un o brif sylfaenwyr Y Wladfa ym Mhatagonia

25 1851, ganwyd y Golygydd, Newyddadurwr a’r Eisteiddfodwr E. Vincent Evans yn Llanegryn, Meirionydd

26 1805, agorwyd Traphont Pontcysyllte sy'n dwyn Camlas Llangollen dros Ddyffryn Afon Dyfrdwy

26 1865, cyhoeddwyd “Anturiaethau yng Ngwlad Hud” gan Lewis Carrol

26 2004, agorwyd Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd

28 1170, bu farw’r Tywysog Owain Gwynedd a rhannwyd Teyrnas Gwynedd rhwng ei feibion, Dafydd a Rhodri

28 1893, cafodd gwragedd y bleidlais mewn Etholiad Cyffredinol am y tro cyntaf yn Seland Newydd

29 1840, ganwyd Rhoda Broughton(m.1920) nofelydd Seisnig yn Ninbych, ysgrifennodd dros 27 o nofelau

30 Dydd Gŵyl Sant Andreas, Nawddsant yr Alban, Groeg, Romania, Rwsia a Sisili ac un o’r deg Apostol